Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , DAVID ( 1779 - 1858 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd ;

g. yn Rhagfyr 1779 yn y Ddôl Wen , Llanfihangel-y-Creuddyn , sir Aberteifi ; ei dad yn wr cefnog ei amgylchiadau ac Eglwyswr y rhan fwyaf o'i oes, ond troes at y Methodistiaid cyn y diwedd. Cafodd well addysg na'r cyffredin yn ei ddydd; yn 23 oed aeth am dymor i ysgol yn Amwythig gan fwriadu myned yn fasnachwr . Yna daeth i Fachynlleth at un John Jones y Siopwr , un o golofnau yr Annibynwyr , a'r noson gyntaf iddo yno cyfarfu â'r Parch. John Roberts , Llanbrynmair [q.v.] . Yn hynafgwr, tystiai iddo ddwyn olion dylanwad personoliaeth y gwr hwnnw gydol ei oes. Blinodd ar fywyd masnach ac ymhen chwe mis dychwelodd gartref i'r Dolau , Talybont , ger Aberystwyth , lle y symudasai ei deulu yn y cyfamser, gan fwriadu ymsefydlu fel amaethwr .

Priododd Mary Hughes ( 1782 - 1826 ) merch y Llwynglas ac aethant i fyw i Cerrig-cyrannau ac ymaelodi gyda'r Annibynwyr yn groes i ddymuniad eu teuluoedd. Dechreuodd bregethu yn Nhalybont o dan weinidogaeth Azariah Shadrach [q.v.] . Yn 1811 cymerodd ofal eglwysi Tywyn , Llanegryn , a Llwyngwril . Urddwyd ef yn yr awyr agored yn Nhywyn , Mawrth 1813 , a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd alwad i'r Graig , Machynlleth , ac arhosodd yno hyd 1836 . Sefydlodd ganghennau yn Soar , Uwchygarreg ; Pennal ; Llanwrin ; Penegoes ; a'r Glasbwll . Yn 1836 symudodd i eglwys Gartside , Manceinion , ac yn 1839 i Llanfyllin lle'r arhosodd hyd nes ymddeol yn 1857 . Bu farw yng Nghroesoswallt 14 Mehefin 1858 a chladdwyd ef ym mynwent capel Pendref , Llanfyllin .

Priododd ei ferch, Ann , â Thomas Bynner , Llanfyllin , dilledydd . Bu iddynt hwythau fab, David Morgan Bynner a briododd â Catherine , merch Owen Daniel , Caethle , Tywyn yn 1877 (gw. yr erthygl ar John Daniel Jones) . Gŵr cyntaf Catherine oedd Joseph David Jones .

Yr oedd yn un o arweinwyr ei enwad ac yn amlwg yng ngwleidyddiaeth ei ddydd fel Rhyddfrydwr . Ysgrifennodd lawer i'r Dysgedydd ac yr oedd ymhlith y rhai a ysgrifennodd erthyglau i ‘ Lyfr Glas ’ John Roberts , Llanbrynmair [q.v.] . Eithr fel hanesydd y daeth fwyaf i amlygrwydd. Ei brif waith oedd Hanes yr Eglwys Gristnogol . Cyhoeddodd hefyd ddeg rhan o Hanes Ymneillduaeth yn Nghymru , yn bennaf hanes eglwysi Annibynnol , ond ni lwyddodd i gwpláu'r gwaith hwn; ac Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, a rhannau o Broffwydoliaeth Daniel .

Ffynonellau:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , i, 276-84;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 , 732-3;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 281-3.

Awdur:

Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54