Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , EVAN (‘Llew Madog'; 1846 - 1920 ), cerddor ;

g. 27 Mawrth 1846 yn Tyndre , Morfa Bychan , ger Porthmadog . Saer dodrefn ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cymerodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn ieuanc, meddai ar lais da , a daeth yn ddatganwr o gryn fri yn yr ardaloedd cylchynol i Borthmadog . Yr oedd hefyd yn fardd lled dda. Cyfansoddodd lawer o donau , a threfnodd alawon Cymreig i seindorf Porthmadog . Enillodd bedair gwaith ar gyfansoddi tonau yng nghymanfa ganu Annibynwyr sir Gaernarfon . Galwodd y dôn gyntaf a gyfansoddodd yn ‘ Llanerch ,’ enw'r fferm agosaf at ei gartref. Canwyd llawer ar ei dôn ‘ Salem ,’ 8.7, ond cofir amdano'n bennaf fel cyfansoddwr y dôn ‘ Tyddyn Llwyn ,’ 8.7.4. Bu f. 1 Tachwedd 1920 a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn , Porthmadog .

Ffynonellau:

  • Y Cerddor , Ionawr 1921 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54