MORGAN FYCHAN (bu farw 1288), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg);

Enw: Morgan Fychan
Dyddiad marw: 1288
Plentyn: Rhys ap Morgan Fychan
Plentyn: Lleision de Avene
Rhiant: Morgan Gam
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg);
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Morgan Gam. Fel ei dad, yr oedd yn gynorthwywr i dywysogion Gogledd Cymru. Efallai i farwniaeth Afan gael ei chymryd oddi arno am dymor, oblegid yn 1282 disgrifir ef fel arglwydd hanner cwmwd ym Maglan. Yr oedd ei fab LLEISION (bu farw 1328), y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw ' de Avene,' yn ddiamheuol yn arglwydd Afan, ac fe'i dilynwyd ef yno gan ei fab, John de Avene, a chan ei ŵyr, Thomas de Avene. Rywbryd ar ôl 1350 daeth Afan i feddiant y pen-arglwydd, oherwydd, y mae'n debygol, cyfnewid tiroedd a wnaethpwyd gan Jane, merch ac aeres Thomas, a gwraig William Blount. Sylwer, serch hynny, mai Rhys, mab iau Madog (Morgan ?) Fychan, a etifeddodd diroedd ei dad ym Maglan, oedd cyndad llawer o deuluoedd pur adnabyddus Morgannwg - teulu Mackworth a theulu Williams, Aberpergwm, yn eu plith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.