Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , GRIFFITH ( 1700 - 1737 ), ‘ Guto Nyth-brân ,’ rhedegydd enwog

ym mhlwyf Llanwynno , Morgannwg . Y mae'r mymryn o ffeithiau a wyddys amdano i'w weld yn y llyfr diddan Plwy Llanwynno , gan Glanffrwd ’ ( William Glanffrwd Thomas ) [q.v.] , a chyda'r ffeithiau gryn swm o chwedloniaeth y fro ynghylch Guto . Ganed ef, meddir, yn 1700 , yn Llwyncelyn , ar gyrion deheuol y plwyf ac uwchlaw'r Hafod (ger Pontypridd ), ond symudodd ei rieni'n fuan wedyn i dyddyn cyfagos Nyth-brân . Bu f. yn 1737 — cwympodd yn farw wedi ennill ras o 12 milltir (o Gasnewydd i eglwys Bedwas ) mewn 53 munud. Claddwyd yn erw'r llan yn Llanwynno , ac y mae maen coffa ar ei fedd. Hysbys yw baled I. D. Hooson arno.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54