MORGAN HEN ab OWEN (bu farw 975) brenin Morgannwg

Enw: Morgan Hen ab Owen
Dyddiad marw: 975
Rhiant: Owain ap Hywel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Morgannwg
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

ŵyr Hywel ap Rhys, sylfaenydd llinach newydd yng ngorllewin Morgannwg tua diwedd y 9fed ganrif. Yr oedd Morgan, a ddilynodd ei dad Owain c. 930, yn agos ei gyswllt â pholisi cyfeillgarwch â'r frenhiniaeth Sacsonaidd, a ddilynwyd gan Hywel Dda, a pharhaodd ar delerau da â'r Saeson am ychydig flynyddoedd o leiaf wedi marw Hywel. Yn ei ddyddiau ef yr oedd Morgannwg yn cynnwys Gwent unwaith yn rhagor (gweler Morgan Mwynfawr), er darfod colli rhai tiroedd ar y gorllewin a aeth yn eiddo i Ddyfed. Bu farw mewn oedran teg, a phasiodd ei frenhiniaeth i'w ddisgynyddion hyd nes y cymerwyd Morgannwg gan Gruffydd ap Llywelyn oddi ar Meurig, ei or-or-ŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.