Cywiriadau

MORGAN (neu YONG), JOHN (bu farw 1504), esgob

Enw: John Morgan
Dyddiad marw: 1504
Rhiant: Morgan ap Jenkin ap Phylip
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Mab Morgan ap Siancyn, o deulu Morgan, o Fachen a Thredegar, sir Fynwy. Addysgwyd ef yn Rhydychen a dyfod yn ddoethur yn y cyfreithiau. Rhoddir y cyfenw Yong arno weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a brawd iddo o'r enw John. Disgrifir ef fel un o gynghorwyr Syr Rhys ap Thomas, ac ymddengys iddo ef a'i frawd Trahaiarn Morgan o Gydweli, twrnai cyffredinol Rhisiart III, ddarbwyllo Syr Rhys i gefnogi Harri eu cyfyrder. Pan ddaeth hwnnw i'r orsedd yn Harri VII, rhoddodd i John Morgan nifer o swyddi eglwysig, yn eu plith deoniaethau Windsor a Leicester ac archddiaconiaeth Caerfyrddin. Yn 1496 codwyd John Morgan yn esgob Tyddewi; bu farw yn y Priordy yng Nghaerfyrddin, tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai, 1504. Claddwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi mewn bedd o garreg nadd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

MORGAN (neu YONG), JOHN (bu farw 1504), clerc y senedd ac esgob

Nid oes sicrwydd am ei ach. Yn llawysgrif Peniarth MS 131 , 251, olrheinir ei linach o Ruffudd Dwnn, Croesallgwn, Cydweli, ac y mae ateg i hyn yng ngyfeiriad Ieuan Deulwyn ato fel un gyda 'gwaed y Dwnn' (Gwaith I. Deulwyn, 50). Ond y mae'n fwy arferol ei gyfrif yn frawd i'r gŵr o gyfraith, Trahaearn Morgan, Modlyscwm, Cydweli, mab Morgan ap Jenkin ap Phylip, ŵyr Llywelyn ap Morgan o Dredegar (Dwnn, Her. Visn., 1, 21, H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses, 216-8). Gelwid ef yn ' Young ' weithiau i'w wahaniaethu oddiwrth frawd arall o'r enw John (Cat. MSS. in B.M., 248). Os mab Morgan ap Jenkin oedd yr esgob, perthynai, drwy ei fam, Joan, ferch David Mathew, hyn., Radyr, i rai o deuluoedd mwyaf amlwg y de - Herbert, Dafydd Gam, Wgon, a'r Dwnn - esboniad, efallai, ar gyfeiriad Ieuan Deulwyn (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1941, 122-3). Dylid sylwi nad oedd yn frawd i Morgan Cydweli, twrne cyffredinol Rhisiart III, a gymysgir yn aml gyda Trahaearn Morgan.

Addysgwyd John Morgan yn Rhydychen ac yr oedd yn ddoethur mewn cyfreithiau cyn dymchwel gobeithion y Lancastriaid yn Nhewksbri yn 1471. Erys ei yrfa hyd at esgyniad Harri VII mewn tywyllwch. Arweiniodd distawrwydd y cofnodion swyddogol yn ei gylch, a'r dyrchafiad cyflym a ddaeth i'w ran ar ôl 1485, i'r awgrym iddo fod mewn alltudiaeth gyda Harri Tudur ac yn ei wasanaeth fel clerc neu gaplan neu'r ddau (A. F. Pollard, Bull. Inst. Hist. Research, XV, 156-8). O'r tu arall os oes coel ar hen fywgraffiad o Syr Rhys ap Thomas nad yw'n gwbl ddibynadwy, rhaid oedd iddo fod yn weithgar yng Nghymru cyn 1485. Ymddengys fod y bywgraffiad hwn (Camb. Reg., I, 49-144) yn awgrymu mai ef a'i frawd oedd yn gyfrifol am ennill Rhys ap Thomas drosodd at blaid Harri (ibid., 84-5, 88-90, 93, 96, 104-5). Yr anhawster yw fod y cyfeiriadau hyn i gyd yn sôn amdano fel esgob Tyddewi, swydd na ddaeth i'w ran hyd 1496.

Dengys ei ddyrchafiadau cyflym ar ôl Bosworth ei fod yn un o bleidwyr mwyaf dibynadwy Harri. Ar 9 Hydref 1485 gwnaethpwyd ef yn glerc y senedd, yn Nhachwedd ceir ef yn dderbynnydd deisebau, ac yn ddiweddarach daeth yn feistr yn y Siawnsri. Ymhlith y dyrchafiadau eglwysig a gafodd yr oedd eglwys Hanslape, swydd Buckingham, deoniaeth Windsor, a deoniaeth St. Mair, Caerlyr, y cyflwynwyd ef iddynt o un i un ar 6 Hydref, 18 Hydref a Rhagfyr 1485. Yr oedd yn archddiacon Caerfyrddin o Orffennaf 1488 i Chwefror 1494, prebendari Rugmere yn St. Paul yn 1493, a rheithor Great Haseley, swydd Rhydychen.

Pan ddaeth yn esgob Tyddewi yn 1496 rhoes i fyny ei holl swyddi eraill, eglwysig a bydol. Yn ystod ei esgobaeth (cadwyd ei gofrestr dros ran o'r cyfnod), cododd nifer cantorion yr eglwys gadeiriol o 4 i 6 a neilltuodd eglwysi Llanwnnen, Silian, a Llan-y-cefn at eu cynhaliaeth. Adeiladodd yr orsedd esgobol yn y côr yn Nhyddewi, ac yn ei ewyllys, a ddyddiwyd ar 25 Ebrill ac a brofwyd 29 Mai 1504, trefnodd ar gyfer codi capel dros ei fedd yn yr eglwys gadeiriol. Ni chodwyd y capel, ond y mae beddfaen gerfiedig yr esgob yn aros.

Awdur

  • Syr Glanmor Williams

    Ffynonellau

  • At y cyfeiriadau yng nghorff yr erthygl ychwaneger Oxford Dictionary of National Biography,
  • Llawysgrif Harley yn yr Amgueddfa Brydeinig 1249
  • The Episcopal Registers of the Diocese of St. David's, 1397–1518 ( 1917–20 ), ii, 533, 676, 713-61, iii, 123-5
  • Menevia Sacra. Arch. Camb. ( 1927 ) 83, 209
  • Calendar of Patent Rolls, 1485-94 (16, 79, 457), 1494-1509 (71, 78, 85)
  • Jones a , The History and Antiquities of St. David's ( 1856 ), 88, 101, 108, 308
  • Archaeologia Cambrensis, 1919, 393-458

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.