Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN (TEULU), Llantarnam , sir Fynwy .

Cychwynna pwysigrwydd y teulu hwn (cangen o deulu Morganiaid Pencoyd , yn hawlio eu bod yn disgyn o Cadifor Fawr ), pan brynwyd abaty diddymedig Llantarnam yn 1561 gan WILLIAM MORGAN (bu f. 1582 ), Grange Cefn Vynoch ; gyda‘r abaty yr oedd y maenorau perthynol iddo — Wentwood a Bryngwyn . Gan William , iarll Pembroke (bu f. 1570 ) , y‘u prynwyd; cawsai ef hwynt gan y frenhines Elisabeth yn 1559 . Adeiladwyd plasty newydd gyda meini‘r abaty eithr ymddengys i Morgan gadw hen greirgell Penrhys fel man pererindod, a defnyddiwyd ei dy ef i gynnal gwasanaeth yr offeren; er gwaethaf hyn i gyd daeth ef yn siryf ei sir yn 1568 a chynrychiolodd hi nid yn unig yn seneddau 1555 a 1557 yn ystod teyrnasiad Mari ond hefyd yn seneddau Elisabeth yn 1559 a 1571 .

Dilynwyd ef yn y Senedd , yn 1584 a 1586 , gan ei fab EDWARD MORGAN (bu f. 1633 ), a fu hefyd yn siryf yn 1582 ; priododd Florentia , ei ferch ef, Syr William Herbert , St. Julians .

Trwy briodas ei aer ef, THOMAS MORGAN , â Frances , ferch Edward Somerset , 4ydd iarll Worcester , daethpwyd â‘r teulu yn nes i mewn i wersyll y Pabyddion milwriaethus; er yr ymddengys i Frances gael ei dwyn i fyny yn Brotestant , yr oedd hi wedi ei ‘chymodi’ â Rhufain trwy offerynoliaeth y Tad Robert Jones , ac yr oedd yn hael yn ei chymorth i genhadaeth Gymreig Cymdeithas Iesu ; yr oedd dylanwad ei thad ar y Cyfrin Gyngor yn ei gwneuthur yn bosibl iddo fynd a dyfod yn fwy rhydd nag a ganiateid i Babyddion , ac felly yr oedd yn medru gwasnaethu fel dolen gydiol rhwng cynulliadau gwasgaredig o Babyddion megis y rheini yn sir y Fflint . Trwy dalu dirwy o £100, cafodd faddeuant am wrthod y llw o deyrngarwch yn 1612 .

Mab Thomas Morgan , sef Syr EDWARD MORGAN , a gawsai ei addysg yng Ngholeg Iesu , Rhydychen (ymaelododd fis Mai 1616 , B.A. Gorffennaf 1619 ), a fu‘n abl i sefydlu canolfan adran Gymreig Cymdeithas Iesu yn y Cwm , swydd Henffordd , yn 1635 . Yn yr ail ‘ Bishops’ War ’ ( 1640 ) gwnaethpwyd Edward yn swyddog yn y fyddin a chaniatáu iddo godi cymorth gan ei gyd-grefyddwyr — a pharodd y gweithrediadau hyn ddadlau brwd yn y Senedd Faith , eithr ateb Charles oedd ei wneuthur yn farwnig ( 12 Mai 1642 ). Ymladdodd dros y brenin yn y Rhyfel Cartrefol , a chymerwyd ef yn garcharor yn Henffordd , 18 Rhagfyr 1645 . Gwrthododd Senedd y Rump ’ gydnabod y teitl ( 17 Chwefor 1652 ), ac oherwydd fod Morgan yn frenhinwr cymerwyd meddiant o‘i stad, a oedd yn werth £911 y flwyddyn, ac nis rhyddhawyd (ar 9 Tachwedd 1654 ) hyd ar ôl i farw ef (ar 24 Mehefin 1653 ). Priododd ei chwaer ef, Winifred , â Percy Enderbie , awdur Cambria Triumphans .

Daeth ei aer, Syr EDWARD MORGAN , yr ail farwnig , yn Brotestant , ac felly daeth yn bosibl i‘r teulu ailgymryd rhan mewn materion seneddol; yr oedd y 3ydd barwnig , yntau hefyd yn Syr EDWARD MORGAN (bu f. 1681 ), yn cynrychioli‘r sir yn 1680-1 .

Pan fu ef farw, heb etifedd gwryw, aeth y stad o feddiant y teulu ac fe‘i dilynwyd ef fel barwnig gan fab iau y barwnig 1af , Syr JAMES MORGAN ; glynodd ef wrth hen grefydd y teulu, serch bod ei wraig yn Brotestant , a pharhaodd yn ‘ non-juror ’ ar ôl chwyldroad 1688 . Pan fu ef farw ( cyn 1727 ) daeth y teitl i‘w derfyn.

Ffynonellau:

  • Bradney , i, 464-7;
  • G. T. Clark , Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae , 1886 , 322-3;
  • G. E. Cokayne , Complete baronetage (1611-1800) , Exeter, 1900-09 , ii, 171;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Jas. I, 137;
  • Calendar of the Committee for Compounding with Delinquents, etc., 1643–1660 . Record Publication , i, 132, 467, 511; iii, 2310-2;
  • Foley , Records of the English province of the Society of Jesus (1570-1800 ) , iv, 334;
  • D. Mathew , The Celtic Peoples and Renaissance Europe. A study of the Celtic and Spanish influences on Elizabethan history , 1933 , 492-3;
  • Rushworth , Historical Collections of Private Passages of State , 1721 , iii, 163, 394;
  • British Museum Lansdowne Manuscript 153, folios 79, 85;
  • Severall Letters from Colonell Morgan… and Colonell Birch, fully relating the manner of the taking of … Hereford … With a perfect list of the names of the prisoners, etc , Llundain, 1645 … , 5;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1947-8 , 71;
  • Catholic Record Society , xxii, 95;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 121, 127.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54