Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , DAVID LLOYD ( 1823 - 1892 ), meddyg yn y llynges ;

g. yn Rhosmaen , Llandeilo-fawr , mab David Morgan . Astudiodd ffisigwriaeth yn Llundain a Phrifysgol S. Andrews . Ymunodd â'r llynges yn 1846 , a dyrchafwyd ef yn staff-feddyg ( surgeon ) yn 1854 . Gwelodd lawer o droeon hynod ar draethau gorllewin Affrica ( 1847-9 ) ac yn y Crimea ( 1850-6 ), ac yn China gyda'r fyddin ( 1857-61 ). Yn 1862-5 yr oedd yn swyddog meddygol ar H.M.S. Euryalus , arolygwr Plymouth 1878-80 , a Haslar 1880-2 . Bu'n feddyg i'r frenhines . Bu f. 3 Rhagfyr 1892 yn Rhosmaen , Llandeilo-fawr .

Ffynonellau:

  • Notable Welshmen (1700–1900) , 1908 , 422;
  • The Annual Register a record of world events , Harlow , 1892 , 210;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present , 1908 .

Awdur:

Y Parchedig Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54