Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN MWYNFAWR ( fl. 730 ), ‘ Y Noddwr ’ (neu MORGAN ab ATHRWYS ), brenin Morgannwg ;

oddi wrth ei enw ef y cafodd hen frenhiniaeth Morgannwg , a oedd yn cynnwys Glywysing a Gwent , ei henw. Ŵyr ydoedd a dilynydd (yn ddiamau) i'r brenin Meurig ap Tewdrig , gŵr tybiedig Onbrans , ferch Gwrgant Mawr , brenin olaf Erging ( de swydd Henffordd ). Estynnai llywodraeth Morgan , mewn gwirionedd, dros afon Gwy i ran o Erging ac, i gyfeiriad y gorllewin, cyn belled ag afon Tywi . Dilynwyd ef gan ei fab Ithel .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • Liber Landavensis. The Text of the Book of Llan Dâv , 1893 .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

MORGAN MWYNFAWR ( Bywg. , 601)

Darllener Onbraus (nid ‘Onbrans').

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54