Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , GEORGE OSBORNE ( 1826 - 1897 ), gwleidydd ;

mab Morgan Morgan , ficer Conwy o 1838 hyd 1870 (a oedd yn fab i David Morgan , o Lanfihangel-genau'r-glyn , a'i wraig Avarina Richards o deulu Ffos-y-bleiddiaid — gw. o dan Lloyd , Vaughan ), a'i briod Fanny Nonnen , merch John Nonnen , Gothenburg , Sweden ; g. 8 Mai 1826 yn Gothenburg pan oedd ei dad yn gaplan yno ( 1821-35 ). Bu yn ysgolion Friars ac Amwythig , ac yng ngholegau Balliol a Worcester yn Rhydychen ; graddiodd yn 1848 yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron, ac enillodd amryw o wobrau'r brifysgol ; bu'n gymrawd o Goleg University , 1850-7 ; galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1853 , a'i wneud yn Q.C. yn 1869 . Soniwyd amdano fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn sir Gaernarfon yn 1859 ond tynnodd yn ôl rhag rhannu'r bleidlais Ryddfrydol , ac nid aeth i'r Senedd hyd 24 Tachwedd 1868 , pan etholwyd ef fel Rhyddfrydwr yn un o'r ddau aelod dros sir Ddinbych ; y llall oedd Syr Watkin Williams-Wynn . Pan rannwyd y sir yn 1885 dewisodd sefyll dros ddwyrain Dinbych , lle'r oedd dylanwad Wynnstay gryfaf, a llwyddodd i orchfygu Syr Watkin , gan ddiorseddu teulu Wynnstay o gynrychiolaeth seneddol y sir am y tro cyntaf ers dros 180 o flynyddoedd. Daliodd y sedd yn 1886 ac yn 1892 . Yn y Senedd , cymerodd ran flaenllaw gyda mesurau Rhyddfrydol a Chymreig . Yn 1869 eiliodd Henry Richard yn ei benderfyniad ynglŷn â'r troi o'r ffermydd yng Nghymru ar ôl etholiad 1868 ; yn 1870 , mewn canlyniad i'r hyn a ddigwyddodd yn angladd Henry Rees y flwyddyn cynt, cyflwynodd fesur i alluogi unrhyw enwad Cristnogol i gynnal gwasanaeth ym mynwentydd y plwyf ; daeth â hwn ymlaen am ddeg tymor seneddol yn olynol a llwyddodd i'w gael yn ddeddf yn 1880 . Yn yr un flwyddyn cyflwynodd fesur i hyrwyddo cael tir at adeiladu lleoedd o addoliad ; daeth hwnnw yn ddeddf yn 1873 . Cefnogodd ddeddf cau tafarnau ar y Sul yng Nghymru , a'r mudiad i roddi Coleg Aberystwyth ar yr un tir â Cholegau Bangor a Chaerdydd . Pleidiai ddatgysylltiad yr eglwysi sefydledig yn Iwerddon a Chymru ac ymreolaeth i Iwerddon . Bu ganddo ran mewn sefydlu'r hostel i ferched ynglŷn â Choleg Bangor a sefydlwyd ysgoloriaeth ynglŷn â'r coleg hwnnw er cof amdano. Bu mewn swydd ddwywaith, y tro cyntaf yn 1880 , fel ‘ Judge-Advocate-General ’ yng ngweinyddiaeth Gladstone , pan lwyddodd i ddiddymu fflangellu yn y fyddin , a'r eiltro fel is-ysgrifennydd seneddol i'r trefedigaethau yn 1886 . Yn y swydd honno cymerodd ddiddordeb yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia . Ysgrifennodd gryn lawer i'r prif gylchgronau Saesneg ac yr oedd yn ysgolhaig clasurol . Gwnaed ef yn farwnig yn 1892 . Bu f. 25 Awst 1897 ; y mae ei fedd ym mynwent Llantysilio , Llangollen . Priododd, 1856 , Emily , merch Leopold Reiss , Eccles . Ni bu ganddynt blant.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • T. Gwynn Jones , Cofiant Thomas Gee , Dinbych, 1913 ;
  • gwybodaeth gan y Dr. Thomas Richards .

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon



Yr oedd brawd iau nag ef, JOHN MORGAN , M.D. , a fu f. 4 Mai 1892 , yn athro meddygol yn Owen's College , Manceinion . Aeth ei frawd arall, HENRY MORGAN ( 1830 - 1912 ), y trydydd o'r brodyr (g. 1 Gorffennaf 1830 yn Gothenburg ), i ysgol Amwythig a Choleg Iesu yng Nghaergrawnt . Graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn mathemateg; etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg; daliodd bron bob swydd ynddo, ac yn 1885 etholwyd ef yn feistr y coleg . Pan fu f., 2 Medi 1912 , yr oedd wedi bod yno am 63 mlynedd yn ddifwlch. Gŵr cyhyrog ac egnïol oedd ‘ Black Morgan ’ (enw ei goleg arno), rhwyfwr nodedig, a dringwr yr Alpau — ef a'i gyfaill Leslie Stephen oedd y cyntaf i ddringo'r Jungfrau-Joch , yn 1862 .

Perthynai i'r blaid flaengar ym mywyd y brifysgol; yn 1871 cychwynnodd y mudiad i ganiatáu i wŷr priod ddal cymrodoriaethau , a chyda hynny i bennu saith mlynedd fel hyd cymrodoriaeth. Ni chyhoeddodd fawr, ond gellir nodi ei Church and Dissent in Wales , 1895 . Yr oedd yn briod, a chanddo fab (a laddwyd yn y rhyfel yn 1915 ) a phedair merch.

Ffynonellau:

  • Iris Osborne Morgan , Memoirs of Henry Arthur Morgan, master of Jesus college, Cambridge, 1885-1912 , Llundain, 1927 ;
  • gwybodaeth gan Miss Gerda Morgan (ei ferch).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54