MORGAN, THOMAS OWEN (1799 - 1878), bargyfreithiwr ac awdur

Enw: Thomas Owen Morgan
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

mab Thomas Morgan. Pan ffurfiwyd y Powysland Club yn 1867 dewiswyd Morgan yn gyd-ysgrifennydd â Morris Charles Jones. Yr oedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru, a cheir erthyglau ganddo yn Archæologia Cambrensis, 1851, 1854, 1856, ac 1867 ('History of the Lordship of Cyfeiliog ' yn un o ddwy sydd yn Archæologia Cambrensis, 1867). Cofir ef yn bennaf oherwydd ei A New Guide to Aberystwyth, 1848 (arg. eraill yn 1851, 1859, 1867, 1869, 1870); A New Guide to Aberdovey … Towyn, Machynlleth, 1854 (ac 1863); a The Aberdovey Guide, 1863. Efe, y mae'n bosibl, ydyw awdur A Chronological Summary of the Chief Events in the History of the Castle of Aberystwyth, llyfryn bychan y cafwyd llawer o argraffiadau ohono. Cyhoeddodd yn 1849 Flora Cereticae Superioris: a catalogue of plants indigenous in the neighbourhood of Aberystwyth. Etholwyd ef yn faer Aberystwyth yn 1862 a thrachefn yn 1863; yr oedd hefyd yn ddirprwy-raglaw yn Sir Aberteifi. Bu farw 5 Rhagfyr 1878 yn ei gartref yn Goginan gerllaw Aberystwyth, yn 79 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.