MORGAN, REES (1764 - 1847), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Rees Morgan
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1847
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn y Capelhir, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin, mab Morgan Rees a fynychai'r seiat Fethodistaidd yng Nglanyrafon-ddu Ganol. Argyhoeddwyd ef yn ieuanc o dan weinidogaeth William Llwyd o Gaeo, ei gyfaill mawr ar ôl hynny. Dechreuodd bregethu c. 1784-5, a bu ar y maes ar hyd ei oes faith dros Gymru oll. Cymdeithasodd lawer â Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, ac eraill o'r prif ddiwygwyr Methodistaidd. Bu farw 6 Ebrill 1847, a chladdwyd ym mynwent Talyllychau. Ni ddylid ei gymysgu ef â Rhys Morgan, Glancledan-fawr, Llanwrtyd, a fu'n gynghorwr gyda'r Methodistiaid ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.