Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , THOMAS REES ( 1834 - 1897 ), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd ;

g. 31 Mawrth 1834 , ym Mhenydarren , Merthyr Tydfil . Bu'n gweithio mewn gweithydd haearn nes iddo, yn 10 oed, gael damwain a gollodd iddo ei goes chwith y tu isaf i'r pen-glin . Bu wedyn o dan addysg yn ysgolion John Thomas (‘ Ieuan Ddu ’) , Owen Evans , a Taliesin Williams (‘ Taliesin ab Iolo ’) ; o dan yr olaf dysgodd fathemateg ac elfennau mecaneg. Bu wedyn yn gweithio yn y gweithydd haearn lleol . Ymfudodd i U.D.A. yn 1865 a sefydlu yn Pittston, Pa. , gan weithio yn siopau-gwaith cwmnïau rheilffyrdd . Bu wedyn yn y Cambria Iron Works ( Johnstown ) ac yn yr Atlas Works , Pittsburgh . Yn 1868 dechreuodd ei fusnes ei hun gan wneuthur morthwylion a weithir gan ager ; o'r cychwyn syml hwn y datblygodd gwaith mawr y Morgan Engineering Company a chwmnïau eraill. Daeth ei ffyrm yn ymgymerwr mawr, gan wneuthur llawer o waith i'r Llywodraeth , yn enwedig i'r llynges . Ei ddyfais ef a'i gwnaeth yn bosibl i blygu a ffurfio'r platiau dur mawr at longau rhyfel . Bu f. 6 Medi 1897 yn Alliance, Ohio .

Ffynonellau:

  • The Cambrian , 1891 , 289-93; 1897, 441-4;
  • Y Drych newyddiadur cenedlaethol Cymry America (Utica), 26 Tachwedd 1891 ;
  • Edwards , Welshmen as Factors in the Formation and Development of the United States Republic , 1899 , 295-8;
  • The Royal blue book prize productions of the Pittsburgh International Eisteddfod, July 2, 3, 4 and 5, 1913 , Pittsburgh, 1916 (Pittsburgh International Eisteddfod, 2-5 Gorffennaf 1913), 1916 , 174-5.

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54