Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , RHYS ( c. 1700 - c. 1775 ), bardd ,

a oedd yn byw yn ffermdy Pencraig-nedd ym mhlwyf Llangatwg yng Nglyn Nedd . Y mae'n bosibl, er na ellir profi hynny'n bendant, ei fod yn un o ddisgynyddion Tomas Llywelyn o Rigos [q.v.] . Dywaid Iolo Morganwg ei fod yn saer , yn wehydd , yn delynor , ac yn bregethwr gyda'r Ymneilltuwyr . Y mae'n weddol sicr ei fod yn aelod yn yr ‘ Hen Dŷ Cwrdd ’ ym Mlaengwrach . Digwydd enw dau ‘ Rees Morgan ’ ymhlith yr aelodau yn 1734 , y naill yn henuriad a'r llall yn ddiacon . Ond fel bardd yr enillodd ei le yn hanes Morgannwg . Diau ei hyfforddi yn y gelfyddyd farddol gan rai o ddisgyblion Edward Dafydd o Fargam [q.v.] , ond y gŵr a gafodd fwyaf o ddylanwad arno, yn ôl pob tebyg, ydoedd Dafydd Lewys o Lanllawddog [q.v.] , ficer Llangatwg o 1718 hyd 1727 , gŵr a adwaenai Iaco ab Dewi a Moses Williams . Felly y daeth Rhys Morgan i gysylltiad â dilynwyr Edward Lhuyd , a dyna un eglurhad ar yr adfywiad barddol a welwyd ym Mlaenau Morgannwg yn hanner cyntaf y 18fed g. Daeth hefyd i gysylltiad â Sion Rhydderch [q.v.] , a hyn, yn ddiau, a barodd iddo ef a'i gymheiriaid ddechrau cynnal eisteddfodau tebyg i'r rhai a drefnid yn y Gogledd. Gyrrai ei waith i'r almanaciau. Ymroes i feistroli gramadeg y beirdd , a phan chwiliai Siôn Rhydderch am awdl enghreifftiol o waith bardd cyfoes i'w chynnwys yn ei Ramadeg , 1728 , fe'i cafodd gan Rys Morgan . Er hynny, ychydig o'i gynhyrchion sydd ar glawr, ac nid oes ryw lawer iawn o gamp arnynt; ond eto, y mae Rhys Morgan yn ffigur gweddol bwysig yn hanes yr adfywiad llenyddol ym Morgannwg .

Ffynonellau:

  • Yr Ymofynnydd , 1897 ;
  • D. Rhys Phillips , The Hist. of the Vale of Neath , Abertawe, 1925 , 1925 , 541-6;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg , 1948 , 1948 , 230-1, 259-300.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54