MORGAN, CHARLES OCTAVIUS SWINNERTON (1803 - 1888), hynafiaethydd a hanesydd lleol

Enw: Charles Octavius Swinnerton Morgan
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1888
Rhiant: Mary Margaret Morgan (née Stoney)
Rhiant: Charles Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 15 Medi 1803, pedwerydd mab Syr Charles Morgan, ail farwnig, Ealing, Middlesex, a Tredegar Park, sir Fynwy; yr oedd, felly, yn frawd i'r barwn Tredegar 1af (gweler yr ysgrif ar y teulu). Ymaelododd yn Christ Church, Rhydychen, 26 Mehefin 1822 (B.A. 1825, M.A. 1832). Yr oedd yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw yn sir Fynwy, a bu'n cynrychioli ei sir yn y Senedd o 1840 hyd 1874. Daeth yn F.S.A. yn 1830, a phan fu farw yr oedd yn un o gymrodyr hynaf y gymdeithas honno; gwelir enghreifftiau o'i gyfraniadau iddi yn Archaeologia (xxxiii, xxxiv, a xxxvi). Ysgrifennai hefyd i Archaeologia Cambrensis ac i Journal y Royal Archaeological Institute. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1832. Yr oedd yn awdurdod ar glociau ac oriaduron, a rhoes rai esiamplau i'r casgliadau cenedlaethol yn Llundain. Cysylltir enw Morgan, weithiau wrtho ei hun, ac weithiau gydag enw Thomas Wakeman, â'r llu erthyglau, etc., a gyhoeddwyd gan y Monmouthshire and Caerleon Antiquarian Association a sefydlwyd yn 1847. Dyma deitlau, rhai o'r pethau gan Morgan ei hunan a gyhoeddwyd gan y gymdeithas honno: ' Excavations … within the walls of Caerwent, ' 1856, ' Notice of a Tessellated Pavement … in the Churchyard, Caerleon,' 1866, ' Some Account of the Ancient Monuments in the Priory Church, Abergavenny,' 1872, ' Goldcliff and the Ancient Roman-Inscribed Stone found there,' 1882. Y mae tystiolaeth ymhlith papurau a dogfennau teulu Morganiaid, Tredegar, iddo astudio llawer ar y rheini. Yn The Friars, Casnewydd-ar-Wysg, yr oedd yn byw. Bu farw'n ddibriod 5 Awst 1888.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.