Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , THOMAS ( 1543 c. 1605 ), Pabydd a chynllwynwr .

Honnai ei fod yn hanfod o ‘ right worshipful family of Monmouthshire ’; tybia awdur yr erthygl arno yn y D.N.B. mai teulu Morganiaid Llantarnam ydoedd hwn, tyb David Mathew ( Celtic Peoples and Renaissance Europe , 89) ydyw mai perthyn i Forganiaid Machen yr oedd, eithr ni ellir ei gysylltu â'r naill deulu na'r llall fel y rhoddir eu hachau yn Clark , Limbus , 311-3, 322-3. Ar ôl cael addysg yn Rhydychen — ni wyddys ym mha goleg y bu — a gwasnaethu yng nghartrefi esgob Exeter ac archesgob Caerefrog ( 1561-8 ), cymeradwywyd ef yn 1569 gan ieirll Pembroke a Northumberland i wasnaethu George Talbot , 6ed iarll Shrewsbury , y gŵr yr oedd Mari frenhines Sgotland yn garcharor yn ei gartref ef, yn Tutbury , ar y pryd. Fe'i cysylltodd Morgan ei hun â'r frenhines , bu'n foddion i gludo llythyrau dirgel iddi, ac, ar ôl iddo gael ei gwestiyno gan y Cyngor ( 15 Mawrth 1572 ) fe'i carcharwyd yn Nhŵr Llundain am naw mis fel un a fu â chyfran ganddo yn y ‘ Ridolfi Plot .’ Wedi ei ryddhau aeth i Baris ; yno, yn ysgrifennydd i James Beaton , archesgob Glasgow a llys-gennad Mari , parhaodd i ofalu am ohebiaeth Mari hyd y cyhuddwyd ef gan Dr. William Parry [q.v.] o gychwyn cynllwyn i ladd Elisabeth — y cynllwyn y torrwyd pen Parry o'i blegid yn 1585 . Y flwyddyn cynt ( 1584 ) ymddangosodd yr athrod dienw ar gynghorwyr Protestannaidd Elisabeth a elwir yn Leycesters' Commonwealth , gwaith yr oedd Walsingham yn gwbl argyhoeddedig mai Morgan ydoedd ei brif awdur; credai Mari mai dyna paham y mynnai Llywodraeth Elisabeth fod i Morgan ran a chyfran yng ‘nghynllwyn’ Parry er mwyn profi bod rhesymau digonol dros ei gael allan o'r wlad. Er na feiddiai Henri II gythruddo Sbaen trwy gydsynio â'r cais, cadwodd ef yn y Bastille ( 1585-90 ), gan wrthod dro ar ôl tro wrando ar geisiadau Elisabeth am ei anfon allan o'r wlad a cheisiadau Mari am iddo ei ryddhau; yno parhaodd Morgan i ohebu â Mari (a chafodd Elisabeth wybod am gynnwys yr ohebiaeth) a bu'n helpu i drefnu'r ‘ Babington Plot ’ ( 1586 ). Yn y cyfamser yr oedd yn cadw cyswllt â chyfeillion a pherthnasau Pabyddol yn Ne Cymru a cheisiodd eu defnyddio yn ei gynlluniau a'i gynllwynion ( Cal. Scot. Pap. , v, 87, 142; Hist. MSS. Com. , Cecil , iv, 1, 6-10). Pan gafodd ei ryddhau yn 1590 yr oedd marwolaeth ei noddwraig wedi peri iddo golli ei ddylanwad a'i bensiwn, a chan ei fod yn elynol i'r Jesiwitiaid ac yn bleidiol i hawliau mab Mari , yr oedd iddo elynion yn ei faes arbennig ei hun. Er mwyn gwrthweithio dylanwad Parsons ac Allen , cefnogai ef ddyrchafu Owen Lewis , esgob Cassano [q.v.] — yr oedd barn Owen ar agwedd pethau yn Lloegr yn fwy derbyniol ganddo. Pan fwriwyd ef allan o Ffrainc aeth i'r rhan honno o'r Iseldiroedd a oedd o dan lywodraeth Sbaen ; yno llwyddodd plaid y Jesiwitiaid i gael ei ddodi yng ngharchar am dair blynedd arall ( 1590-2 ). Yn ystod gweddill teyrnasiad Elisabeth bu'n gwibio'n ddi-ddylanwad yma a thraw yn Ewrop . Yn gynnar wedi i Iago ddyfod i'r orsedd aeth at Syr Thomas Parry (a fu f. 1616 ) [q.v.] , llysgennad Lloegr ym Mharis , gyda chynlluniau i geisio cymodi'r Pabyddion yn Lloegr a gwneuthur niwed i'r Jesiwitiaid . Ym mis Ionawr 1605 cyhuddwyd ef o gynllwynio gyda chariadferch Henri IV (yr oedd ei chwaer hi mewn cyswllt â Phabyddion anfoddog yn Lloegr ) a chondemniwyd ef i farwolaeth, eithr yn niwedd y flwyddyn yr oedd yn fyw o hyd, ym Mharis , ac yn disgwyl y gymynrodd a addawsid iddo gan Mari frenhines Sgotland . Ar ôl hyn nid oes hanes amdano, er ei bod yn bosibl ei fod yn fyw yn 1611 .

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Wood , Athenae Oxonienses , 1813–20 , i, 605-8;
  • Adroddiadau'r 'Historical Manuscripts Commission' , Cecil , iii, passim ; iv, 6-10, 571; xiii, 274, 296; xvii, 53, 493;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , 1580-1610 ;
  • Calendar of the State Papers relating to Scotland . Record Publication, 1858 ff , iii-x;
  • ‘Public Record Office—State Papers’ 78/50;
  • English Historical Review , liii. 628, 641;
  • The Listener , 16 Mawrth 1950 .

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54