Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , Syr THOMAS ( 1604 - 1679 ), milwr ;

g. yn 1604 , yn fab ac aer Lewis Morgan , Llangattock , sir Fynwy (nid brawd Syr Henry Morgan [q.v.] fel y dywedir yn Clark , Limbus Patrum , 315, eithr ei nai, y mae'n debyg). Etifeddodd diroedd yn sir Fynwy a daeth i feddiant o rai eraill, eithr treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr a thros y môr. Yn 16 oed, heb wybod fawr ddim ond Cymraeg ar y pryd, ymunodd â llu gwirfoddol a Phrotestannaidd Syr Horace Vere a ymladdodd yn y Rhyfel 30 Mlynedd ; hyd 1643 yr oedd yn ymladd ar ran y Protestaniaid o dan Bernhard o Weimar ac arweinwyr eraill — gyda Fairfax , Monck , ac eraill a oedd i fod, yn ddiweddarach, yn gydfilwyr ag ef yn y Rhyfel Cartrefol ym Mhrydain . Yn hwnnw, bu'n ymladd o dan Fairfax yng ngogledd Lloegr , 1643-4 , ac yna yn y de-orllewin , lle y daeth yn llywiawdr Caerloyw ( 18 Mehefin 1645 ); bu hefyd yn cynorthwyo i gymryd Casgwent ( Hydref 1645 ) a Henffordd ( 22 Rhagfyr 1645 ) a gwnaeth amryw gyrchoedd ar sir Fynwy — yn ystod y cyrchoedd hyn bu'n abl i roddi rhyw fesur o atal ar yr ymdrechion a wneid i gael atgyfnerthion i fyddin y brenin , a chael, yn hytrach, rai o'r newydd i ymuno â phlaid y Senedd . Ar ôl bod yn helpu i orchfygu'r fyddin Frenhinol olaf a oedd ar faes y gad — yn Stow-on-the-Wold ( 22 Mawrth 1646 ) — dychwelodd i sir Fynwy , yn ben-cadfridog , i gymryd rhan yng ngwarchae Rhaglan lle y bu llythyru bywiog rhyngddo ef a'r marcwis Worcester . Bu peth helynt ymhlith ei filwyr pan ryddhawyd hwynt o'r fyddin yng Nghaerloyw yn 1647 , eithr siomodd Morgan obeithion brenhinwyr trwy gario allan mewn modd teyrngarol a chywir orchmynion y Senedd . Ar gais Monck fe'i danfonwyd i Sgotland yn 1651 gyda chatrawd o feirchfilwyr . Bu yno chwe blynedd (gan ddyfod yn ‘ major-general ’) hyd nes y cafodd ei alw yn ei ôl i ymladd — o dan Syr W. Lockhart , mewn enw — yng nghyrch y Dunes ( 1657-8 ); enillodd enw da iawn iddo'i hun yn yr ymladd hwnnw. Wedi iddo ddod yn ôl cafodd ei wneuthur yn farchog ( 26 Tachwedd 1658 ) gan Richard Cromwell ( Whitelock , Memorials , iv, 338) — y mae Shaw ( Knights , 224) a Noble ( House of Cromwell , ii, 543) yn ei gamenwi yn John . Dychwelodd i Sgotland a bu'n cynorthwyo Monck i ad-drefnu ei fyddin a'i dwyn tua'r De i chwarae ei rhan yn yr Adferiad ; diolchwyd iddo am hyn gan Dŷr Cyffredin ( 12 Ionawr 1660 ). Yr oedd yn gomisiynwr milisia yn sir Fynwy y mis Mawrth dilynol; ar 11 Hydref , fodd bynnag, gollyngwyd aelodau ei gatrawd yn rhydd ac eithrio'r milwyr a oedd dano ef ei hun; yn dâl am ei wasanaeth cafodd ei wneuthur yn farwnig ( 7 Chwefror 1661 ). Ar ôl cyrch byr a di-glod yn Portugal ( 1661 ), ymneilltuodd Morgan i'r stad a oedd wedi dyfod i'w feddiant yn Kynnersley , swydd Henffordd , eithr fe'i galwyd yn ôl yn 1665 i fod yn llywiawdr Jersey pan oedd y Ffrancwyr yn bygwth ei goresgyn. Profodd ei fod cystal gweinyddwr ag a fuasai yn swyddog rhyfel , er ei fod bron yn anllythrennog ac mai prin y gallai dorri ei enw. Bu f. yn ei swydd ar 13 Ebrill 1679 . Er mai dyn byr o gorffolaeth ydoedd, yr oedd yn cael ei gyfrif yn uchel ymhlith swyddogion milwrol ei gyfnod, ac yr oedd iddo enw da hefyd oblegid y modd mawrfrydig y byddai'n arfer trin ei elynion. Priododd ar 10 Medi 1632 a bu iddo naw mab.

Dilynodd yr hynaf o'r meibion, Syr JOHN MORGAN , yr ail farwnig , gamre ei dad, gan fyned yn gapten yn y 9fed Catrawd Pedydd ( 19 Mehefin 1685 ), ac yn gyrnol yn y Royal Welsh Fusiliers ( 20 Ebrill 1692 ); cynrychiolodd sir Faesyfed ( 1681-4 ) a sir Henffordd ( 1689-93 ) yn y Senedd . Priododd Hester , merch James Price , Pilleth ( aelod seneddol dros sir Faesyfed , 1624 , a stiward cantref Maelienydd o 1682 hyd 1688 ); eithr ar swydd Henffordd yr oedd diddordebau'r cenedlaethau a'i dilynodd yn canolbwyntio. Daeth y teitl i'w ddiwedd pan fu ei or-or-ŵyr, Syr JOHN MORGAN , f. ar 29 Ebrill 1767 .

Ffynonellau:

  • D. G. Lewis , ‘Syr Thomas Morgan,’ thesis anghyhoeddeig yn Ll.G.C.;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • G. E. Cokayne , Complete baronetage (1611-1800) , Exeter, 1900-09 , iii, 158;
  • J. R. Phillips , Memoirs of the Civil War in Wales and the Marches, 1642–1649 , 1874 , ii, 279;
  • The Journals of the House of Commons , iv, 396; vii, 808;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 180;
  • Firth a Rait , Acts and Ordinances of the Interregnum, 1642–1660 , 1911 , ii, 1437;
  • The Journals of the House of Lords , vii, 437, 478, 663, 676, 678; viii, 145-6, 292-3;
  • Bradney , i, 252;
  • Firth (gol.), Stuart Tracts 1603-1693 , 1903 , 403-23;
  • A collection of the state papers of John Thurloe, Esq. secretary first to the council of state and afterwards to the two protectors , 1742 , vi a vii;
  • Adroddiadau'r 'Historical Manuscripts Commission' , 12 th R. , ix, 89-90;
  • Ll.G.C., A Descriptive Catalogue of the Penrice and Margam Abbey Manuscripts in the possession of Miss Talbot of Margam , Llundain, 1893-1905 L.l61;
  • Tipping , The story of the Royal Welsh Fusiliers , 1915 .

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54