Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN (TEULU), Tredegar Park , etc., sir Fynwy .

Rhoddir llinach y teulu hwn yn y gweithiau arferol ar y teuluoedd tiriog a‘r bendefigaeth — Burke , Debrett , etc.; gw. hefyd y manylion yn G. T. Clark , Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae . Argreffir (neu fraslunir) rhai dogfennau ynglyn â rhai o‘r Morganiaid , yn enwedig Morganiaid Tredegyr ( Tredegar ) a Morganiaid Llantarnam , gan George Blacker Morgan yn ei Historical and Genealogical Memoirs of the Morgan Family as represented in the Peerage of Ireland by the Right Hon. the Baron Tredegar ( London , tair cyfrol, 1895?-7 ). Gan fod rhai o‘r Morganiaid yn cael sylw ar wahân, disgrifiad cyffredinol a roddir yma.

Olrheinir ach y teulu (fel rheol) hyd at LYWELYN ab IFOR , arglwydd S. Clêr a Gwynfor , sir Gaerfyrddin , trwy etifeddiaeth, ac arglwydd Tredegar a Chyfoeth Feredydd trwy ei wraig, Angharad , ferch Syr Morgan ap Maredydd , arglwydd Tredegar . Dywedid fod Llywelyn yn disgyn o Gadifor Fawr , arglwydd Cilsant .

Heblaw ei aer, MORGAN ap LLEWELYN , yr oedd i Lywelyn ab Ifor fab o‘r enw IFOR , Gwernyclepa , sir Fynwy — sefydlydd teulu Morganiaid Gwernyclepa ; daeth tiroedd y teulu hwn yn eiddo teulu Tredegar yn 1632 . Bu i Morgan ap Llewelyn (a fu f. cyn 1384 ) ddau fab — LLEWELYN ap MORGAN (yn fyw yn 1387 ) a PHILIP ap MORGAN ; yr ail oedd sefydlydd Morganiaid Llantarnam — gw. Morgan (Teulu), Llantarnam .

Parhaodd y llinell union, o Llewelyn ap Morgan , trwy IEUAN ap LLEWELYN ap MORGAN , a Syr JOHN MORGAN , ‘ Knight of the Sepulchre , 1448 , stiward Gwynllwg , a urddwyd yn farchog 26 Mehefin 1497 . Brawd iau i Syr John Morgan oedd THOMAS MORGAN , Machen (yn fyw yn 1538 ), ‘ Esquire of the Body ’ i‘r brenin Harri VII ac aer MILES MORGAN , a gollodd ei long ( The Red Lion ) a‘i fywyd yn 1578 pan yn cymryd rhan yn ymgyrch Syr Humphrey Gilbert i America ; amdano ef gw. G. Blacker Morgan , op. cit. Aer Thomas Morgan oedd ROWLAND MORGAN ( 1517? - 1557 ), Machen , brawd y John Morgan a sefydlodd deulu Morganiaid Basaleg . Bu i ROWLAND MORGAN ddau fab a phedair merch. Yr aer oedd THOMAS MORGAN , Machen a Tredegar ; brawd iddo oedd HENRY MORGAN , sefydlydd Morganiaid Llanrhumney . Mab Thomas Morgan oedd Syr WILLIAM MORGAN (y mae ei ewyllys ef wedi ei dyddio 16 Ionawr 1650 ). Ef a groesawodd y brenin Siarl I i Dredegar , 16 a 17 Gorffennaf 1645 . Dilynwyd ef gan ei fab hynaf o‘i wraig gyntaf — THOMAS MORGAN (bu f. 18 Hydref 1666 ), tad yr Elizabeth Morgan a briododd Sir Trevor Williams , Llangibby . Mab i Thomas Morgan o‘i ail wraig, Bridget , ferch ac aeres Anthony Morgan , Heyford , sir Northampton , oedd yr ANTHONY MORGAN (a fu f. 1665 ), y Brenhinwr y ceir ei hanes yn y D.N.B. , a ddywed, fodd bynnag, mai Syr William Morgan oedd ei dad. [Ceir nodyn byr yn y D.N.B. am drydydd ANTHONY MORGAN ( fl. 1652 ), sef hwnnw y dywedir ei fod o Feirin a'r ‘ Casebychan ’ (? Casbach ), sir Fynwy , ac a aeth i wasanaeth iarll Worcester yn 1642 ; gw. ymhellach Cal. of Comm. for Compounding , rhan iii, 2123; rhan iv, 2807, a Commons Journals , vii, 153.]

Aer y Thomas Morgan a fu farw yn 1666 oedd WILLIAM MORGAN (bu f. 28 Ebrill 1680 ). Priododd, 1661 , Blanche , ferch William Morgan , Thirrow , sir Frycheiniog , a mab o'r briodas hon oedd THOMAS MORGAN ( 1664 - 1699 ), a briododd Martha , ferch Syr Edward Mansel , Margam , sir Forgannwg . Ymdrinir â llythyrau ynglyn â Thomas Morgan a‘i briodas yn nhrydedd gyfrol catalog Ll.G.C. o ddogfennau Margam ; gw. hefyd o dan Mansel (Teulu), Margam . Bu’r Thomas Morgan hwn f. yn ddi-etifedd ac aeth yr eiddo i‘w frawd John Morgan ( 1670 - 1719/20 ), Tredegar a Rhiwperra , arglwydd-raglaw siroedd Mynwy a Brycheiniog a phleidiwr y Chwigiaid . Bu ei fab, Syr William Morgan ( 1700 - 1731 ), K.B. , hefyd yn arglwydd-raglaw y ddwy sir; gw. G. Blacker Morgan , op. cit., ii, 1-4. Bu ei fab ef, William Morgan ( 1725 - 1763 ), farw yn ddibriod a dilynwyd ef gan ei ewythr, THOMAS MORGAN ( 1702 - 1769 ), Rhiwperra , a ddilynwyd gan ei fab THOMAS MORGAN ( 1727 - 1771 ), Tredegar , arglwydd-raglaw siroedd Mynwy a Brycheiniog , a oedd yntau‘n ddibriod pan fu farw. Aer olaf Morganiaid Tredegar oedd JANE MORGAN , merch y Thomas Morgan a fu farw yn 1769 . Priododd Jane Morgan ( 1731 - 1797 ) yn 1758 . Ei gwr oedd CHARLES GOULD , a ddaeth yn Syr Charles Gould , barwnig , ar 15 Tachwedd 1792 . Yr oedd yn aelod o‘r Cyfrin Gyngor , yn LL.D. , ‘ Advocate-General and Judge Marshal of H.M. Forces ,’ ac yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog mewn tair Senedd ( Williams , Parl. Hist. of Wales ). Mabwysiadodd gyfenw ac arfbais teulu Morgan ( Tredegar ). Bu Lady Morgan farw 14 Chwefror 1797 , a bu ei gwr, Syr CHARLES GOULD MORGAN , barwnig , farw ar 6 Rhagfyr 1806 a‘i ddilyn gan y cyrnol Syr CHARLES MORGAN ( 1760 - 1846 ), ail farwnig . Yr oedd ef yn gapten yn y Coldstream Guards , yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog , 1787-96 , a thros sir Fynwy , 1796 . Ymhlith ei blant o‘i wraig gyntaf ( Mary Margaret , merch Capt. George Stoney , R.N. ) yr oedd ( a ) y barwn Tredegar 1af (gw. isod), ( b ) AUGUSTUS SAMUEL MORGAN , rheithor Machen a changhellor eglwys gadeiriol Llandaf , a ( c ) Charles Swinnerton Octavius Morgan .

Mab hynaf Syr Charles Morgan , yr ail farwnig , oedd CHARLES ROBINSON MORGAN ( 1792 - 1875 ), barwn Tredegar (crewyd 16 Ebrill 1859 ), arglwydd-raglaw sir Frycheiniog , sir y bu yn ei chynrychioli yn y Senedd hefyd am gyfnod. Trwy ei wraig, Rosamund , merch y Cadfridog Godfrey Basil Munday , yr oedd yn dad ( a ), CHARLES RODNEY MORGAN ( 1828 - 1854 ), aelod seneddol dros sir Frycheiniog , a fu f. yn ddibriod, ( b ) Godfrey Charles Morgan , ail farwn Tredegar (isod), a ( c ) FREDERICK COURTENAY MORGAN ( 1834 - 1909 ), Rhiwperra .

Enillodd GODFREY CHARLES MORGAN ( 1831 - 1913 ), ail farwn ac is-iarll Tredegar , enw iddo‘i hun yn rhyfel y Crimea ; y mae llythyrau (yn Ll.G.C. ) a ysgrifennwyd o‘r Crimea ganddo ef a‘i frawd, Frederick Courtenay Morgan , at eu mam. Yr oedd yr ail farwn yn flaenllaw ym mywyd cymdeithasol, diwydiannol, ac addysgol Deheudir Cymru ; y mae cof-ddelw ohono (ar farch) ym Mharc Cathays , Caerdydd . Bu‘n aelod seneddol sir Frycheiniog , 1858-75 , ac yn arglwydd-raglaw sir Fynwy . Gwnaethpwyd ef yn is-iarll Tredegar , 28 Rhagfyr 1905 , eithr gan iddo farw yn ddibriod ( 11 Mawrth 1913 ) daeth yr is-iarllaeth i ben. Dilynwyd ef fel barwn gan ei nai, COURTENAY CHARLES EVAN MORGAN ( 1867 - 1934 ), 3ydd barwn Tredegar , a grewyd yn is-iarll Tredegar ar 4 Awst 1926 . Bu ef yn gwasnaethu yn y rhyfel â‘r Boeriaid ac yn rhyfel 1914-8 .

Ffynonellau:

  • Enwyd y prif ffynonellau yng nghorff yr erthygl.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54