Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , Syr WALTER VAUGHAN ( 1831 - 1916 ), arglwydd faer Llundain ;

g. 3 Mai 1831 , yn chweched mab i Thomas Morgan o Pipton , y Clas-ar-Ŵy ( Glasbury ), Brycheiniog , a'i wraig Elizabeth ( Vaughan ) — yr wythfed mab oedd OCTAVIUS MORGAN , F.S.A. ( 1837 - 1896 ), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Battersea , 1885-92 ; ar y teulu, gw. Theophilus Jones , Hist. Brecknock (3ydd arg.), iii, 90. Yn wyneb colledion y teulu, aeth amryw o'r meibion i Lundain , a buont yn llwyddiannus dros ben. Bwriodd Walter Vaughan Morgan 10 mlynedd yng ngwasanaeth y National Provincial Bank mewn amryw leoedd ( 1846-56 ); yna ymunodd yntau â ‘ Morgan Bros. ‘ ac anturiaethau eraill ei frodyr. Bu'n arglwydd faer Llundain , 1905-6 , a bu f. 12 Tachwedd 1916 .

Ffynonellau:

  • Who was who? , a'r cyfeiriad uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54