Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , Syr WILLIAM (bu f. 1584 ), milwr ;

mab Syr Thomas Morgan , Pencoed a Langstone , Morgannwg , a Cecilia , merch Syr George Herbert , Abertawe . Aeth i Ffrainc yn 1569 i ymladd fel gwirfoddolwr ym myddin y Protestaniaid . Bu mewn amryw ysgarmesoedd yn y wlad honno ac yn yr Iseldiroedd , a dychwelodd i Loegr mewn pryd i ymuno â iarll Essex yn ei anturiaethau yn Iwerddon . Ar gais yr iarll gwnaed ef yn farchog gan Elisabeth yn 1574 , ond cymaint ydoedd ei golledion ariannol tra yn Iwerddon fel y gorfu iddo werthu ei stad yn 1577 . Treuliodd gyfran helaeth o'r saith mlynedd nesaf yn ymladd â'r Gwyddelod , a bu f. yn 1584 . Priododd Elisabeth , ferch Syr Andrew Judde , un o aldramoniaid dinas Llundain , ond ni fu iddynt blant.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r awdurdodau a enwir yno.

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54