Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , CALEB ( 1800 - 1865 ), gweinidog Annibynnol ;

g. 12 Awst 1800 yn Parcyd , plwyf Eglwyswen , sir Benfro . Addysgwyd ef yn Aberteifi , ysgol ramadeg Hwlffordd , ysgol ramadeg academi Caerfyrddin ( 1816-9 ), ac academi Caerfyrddin ( 1819-22 ). Derbyniwyd yn aelod yn eglwys Penygroes , sir Benfro , yn 14 oed; yno y dechreuodd bregethu yn ddiweddarach. Yn 1822 derbyniodd alwad o Arberth , sir Benfro , ac ordeiniwyd ef yno 2 Ebrill 1823 . Symudodd i Fetter Lane , Llundain , yn 1827 . Yn 1838 , gwahoddwyd ef i fod yn brifathro academi Aberhonddu , eithr ymgroesodd rhag ymgymryd â'r cyfrifoldeb. Tynnodd sylw mawr fel pregethwr poblogaidd yn Fetter Lane , a dylifai cynulliadau mawr i wrando arno. Oherwydd ysbeidiau o wendid, enciliai i Gymru am atgyfnerthiad. Er chwilio am adferiad yn yr Yswistir a'r Almaen , trethwyd nerth ei ysbryd a'i gorff, ac ymddeolodd a dychwelyd i'w hen gynefin ym Mhenfro lle y bu f. 26 Gorffennaf 1865 . Meddai ar ddoniau eithriadol fel pregethwr , a dringodd ar waethaf ei nychdod i fod yn un o oleuadau disglair y pulpud yn Llundain .

Ffynonellau:

  • The Congregational Year Book , 1866 ;
  • D. Tyssil Evans , Cofiant a detholiad o bregethau y Parch Caleb Morris, Fetter Lane, Llundain / The life and ministry of the Rev. Caleb Morris who was the minister of the Tabernacle, Narberth; and of Fetter Lane Chapel, London , Caerdydd, 1900; argraffiad Saesneg, 1902 , 1900 (argraffiad Saesneg, 1902 ).

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54