Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , Syr DANIEL ( 1844 - 1933 ), llysieuegwr ;

g. yng Nghasllwchwr 26 Mai 1844 ; bu mewn ysgol yn Cheltenham ac wedyn yn y Royal College of Science ( South Kensington ) ac yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn , lle y graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn gwyddoniaeth — cafodd wedyn radd D.Sc. yno. Wedi bwrw rhai blynyddoedd mewn gerddi botanegol yn Ceylon a Jamaica , penodwyd ef yn 1886 yn is-gyfarwyddwr Gerddi Kew . Anfonwyd ef droeon i ynysoedd India'r Gorllewin ar ymofyniadau arbennig; yno gwnaeth waith nodedig i wella ansawdd y cotwm a'r siwgr a dyfid yn yr ynysoedd . Urddwyd ef yn farchog yn 1903 . Bu f. 9 Chwefror 1933 .

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1932-3 (gyda rhestr o'i bapurau).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54