Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , DAVID (‘ Eiddil Gwent ’; fl. 1798-1878 ), bardd a llenor .

Fe'i prentisiwyd yn grydd , a threuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd yn Nhredegar . Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth a rhyddiaith , ac yr oedd yn un o aelodau blaenllaw Cymreigyddion y Fenni . Bu canu mawr ar rai o'i faledi, a hyd heddiw y mae bri ar ei gân, ‘ Can mlynedd i nawr .’ Yn 1862 gwobrwywyd ef yn eisteddfod Cymmrodorion Tredegar am draethawd ar ‘ Hanes Tredegar ’ a gyhoeddwyd yn 1868 . Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn nhloty Tredegar , a thra bu yno gyrrai arglwyddes Llanover bunt yn galennig iddo bob Calan. Yr oedd heibio'r 80 mlwydd oed pan fu farw.

Ffynonellau:

  • William Williams (‘Myfyr Wyn’), Cân, Llên, a Gwerin sef cynhyrchion y diweddar Myfyr Wyn , Aberdâr, 1908 ;
  • Morris , Hanes Tredegar o ddechreuad y gwaith haiarn hyd yr amser presenol , Tredegar, 1868 , 1868 ;
  • Powell , History of Tredegar subject of competition at Tredegar 'Chair Eisteddfod', held February the 25th, 1884 , Casnewydd, 1902 , 1902 .

Awdur:

Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54