MORRIS, EBENEZER (1769 - 1825), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Ebenezer Morris
Dyddiad geni: 1769
Dyddiad marw: 1825
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn yr Henbant, Lledrod, Sir Aberteifi, yn 1769, yn fab hynaf yr enwog David Morris a Mary ei briod. Symudodd gyda'i dad i blwyf Tredreyr yn 1774, a chafodd ychydig addysg mewn ysgol a gedwid gan Daniel Davies, curad y plwyf. Aeth i gadw ysgol yn Nhrecastell, Brycheiniog, c. 1786, a chafodd argyhoeddiad ysbrydol yno dan weinidogaeth y cynghorwr Methodistaidd Dafydd William Rhys. Ymunodd â'r seiat Fethodistaidd yn Nhrecastell a dechreuodd bregethu c. 1788. Dychwelodd i'w gynefin, ac ar farwolaeth ei dad yn 1791 ymgymerodd â bugeilio'r praidd Methodistaidd yn Nhŵrgwyn a'r ardaloedd o gwmpas. Priododd, 1792, Mary Jones o'r Dinas, Betws Ifan, ac o'i' chynhysgaeth hi y cododd gartref newydd ym Mlaen-y-wern, lle y bu'n byw o 1804 hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 15 Awst 1825, a chladdwyd ef yn ymyl ei dad. Cyfrifid ef yn un o'r pregethwyr grymusaf ymhlith Methodistiaid ei gyfnod, a gadawodd ei weinidogaeth argraff annileadwy ar ei wrandawyr. Edrychid arno hefyd fel arweinydd diogel yn sasiynau'r Methodistiaid. Cymerth ran flaenllaw ym mudiad yr ordeinio ymhlith y Methodistiaid, ac ordeiniwyd ef gyda'r fintai gyntaf yn sasiwn Llandeilo Fawr yn 1811. Yr oedd yn un o lunwyr Cyffes Ffydd y Methodistiaid yn 1823.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.