MORRIS, EDWARD (1607 - 1689), Perthi Llwydion, Cerrig-y-drudion, sir Ddinbych, bardd a phorthmon

Enw: Edward Morris
Dyddiad geni: 1607
Dyddiad marw: 1689
Priod: Sarah Morris (née Davies)
Plentyn: David Morris
Rhiant: Lowry ferch Edward
Rhiant: Morris ab Edward
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a phorthmon
Cartref: Perthi Llwydion
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Gwenllian Jones

Mab hynaf Morris ab Edward a Lowry ferch Edward; fe'i bedyddiwyd ar y 1 Hydref 1607. Yr oedd yn briod ac yr oedd ganddo lawer o blant. Mab iddo oedd David Morris, offeiriad ac ysgolfeistr Capel Garmon (1685-1709). Bu farw yn 1689 ar daith borthmona, a chladdwyd ef yn rhywle yn Essex. Ysgrifennwyd marwnadau iddo gan bump o'i gyfoedion.

Yr oedd yn un o feirdd gorau ail hanner y 17eg ganrif. Cyfeiria ato'i hun fel bardd Thomas Mostyn, Gloddaeth, a byddai'n sicr o groeso gan y Mostyniaid a chan Wyniaid Bodysgallen adeg y gwyliau. Yr oedd yn feistr ar gynghanedd ac yn ddyfalwr galluog. Yr oedd yn gynefin â hanfod yr hen gymdeithas farddol, ac ysgrifennodd gywyddau yn null y cywyddwyr. Dysgodd y pedwar-mesur-ar-hugain ac ysgrifennodd awdlau arnynt; lluniodd englynion ar wahanol destunau, a chanodd gerddi ar y mesurau rhydd. Yn ei gerddi ceir cryn amrywiaeth mewn testun a mesur. Cerddi carolaidd ydyw llawer ohonynt. Y mae rhai o'i gerddi (ei garolau serch yn arbennig) yn syml, yn gynnil, ac yn dyner, rhai'n bregethwrol ac yn dysgu'r bobl sut i fyw ac yn rhoddi cynghorion, eraill yn adrodd ystori ac yn llawn ffraethineb a hiwmor. Ei hoff fesur oedd y 'tri thrawiad,' ond ni chyfyngodd ei hun i'r mesur hwnnw.

Ar gais (ac ar draul) Margaret Fychan o Lwydiarth cyfieithodd y Rhybuddiwr Christnogawl. Cyhoeddwyd y llyfr hwn bum gwaith: 1689, 1699, 1706, 1789, 1805. Cyfieithiad o lyfr John Rawlet, The Christian Monitor (y 12fed arg.), ydyw.

Yn Reports on MSS. in the Welsh Language awgrymir i Edward Morris ysgrifennu Peniarth MS 200 , Cardiff MS 2.137 , Cardiff MS 1.5 , tudalen o NLW MS 434B , a dau gywydd o Cardiff MS 5.30 . Y mae'n anodd bod yn bendant ynglyn â'r rhain gan na feddwn ddim y gwyddom i sicrwydd mai ysgrifen Edward Morris ydyw, ond o sylwi ar wahanol gyfeiriadau yn Peniarth MS 200 cymhellir ni i'w derbyn fel ei eiddo, tra gorfyddir arnom amau ei gysylltiad â Cardiff MS 1.5 Ceir marwnad iddo ar t. 364 o hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.