Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , JOHN EDWARD ( 1859 - 1933 ), athro ysgol a hanesydd ;

g. yn Rugby , graddiodd yn 1882 o Goleg Magdalen , Rhydychen ( D.Litt. 1905 ), bu'n athro hyd 1923 yn y Bedford Grammar School , a bu f. 8 Tachwedd 1933 . Nid oedd yn Gymro , ond rhoddir ei le iddo yma ar bwys ei brif waith, The Welsh Wars of Edward I , 1901 , sy'n adrodd hanes rhyfeloedd Llywelyn ap Gruffudd â'r brenin , a'r brwydro pellach yng Nghymru hyd 1295 , gyda rhagdraeth ar y rhyfeloedd rhwng y Normaniaid a'r Cymry cyn oes Llywelyn . Delia'r gwaith nid yn unig â'r brwydro ond hefyd â'r dulliau o gasglu milwyr, y cyllid, y cad-ddarpar, etc.; a seiliwyd ef nid ar groniclau ond ar ddogfennau a chyfrifon swyddogol. Serch i Morris (gw. E.H.R. , xxxix a xlvi) gamleoli brwydr olaf Madog ap Llywelyn [q.v.] , erys gwerth ei lyfr.

Ffynonellau:

  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • History , 1912 ff , 1933-4 , 344-5.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54