MORRIS, JOHN (1706 - 1740), morwr

Enw: John Morris
Dyddiad geni: 1706
Dyddiad marw: 1740
Rhiant: Margaret Morris (née Owen)
Rhiant: Morris Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: morwr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Teithio
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab ieuengaf Morris ap Rhisiart Morris, a brawd i Lewis, Richard, a William Morris (gweler yr ysgrifau arnynt); ganwyd yn 1706. Ni wyddys fawr ddim amdano, fwy nag a geir mewn ysgrif (ar ei frawd Lewis) yn y Cambrian Register, 1796, 232, a ddywed iddo farw ar fwrdd y llong-ryfel Torbay (yn y cyrch aflwyddiannus ar Cartagena) yn 1740, yn 34 oed - yr oedd yn ' master's mate ' ar y llong. Y mae gennym ryw 22 o'i lythyrau, tt. 6-36 o'r Morris Letters, yn ymestyn o 5 Gorffennaf 1739 hyd 22 Medi 1741. Gwyddom ei fod gyda'i frawd Richard yn Llundain yn 1735, ac y mae gan Richard (1734) englyn yn ei ganmol yn fawr am ei fwynder (Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, tt. cix, cxi).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.