Serch hyn oll, yr oedd yn Gymro eithriadol wlatgar, ac yn un o gymwynaswyr pennaf ei genedl. Er inni gofio ei eiriau bustlaidd am Oronwy Owen (a sgrifennwyd mewn fflam o ddicter nad oedd yn gwbl ddi-achos), bu mewn gwirionedd yn gefn ymroddgar i lenorion yng Nghymru ar hyd ei oes, pa faint bynnag a laddai arnynt — dengys ei lythyrau atynt y gofal (a'r amynedd yn wir) a wariodd ar eu cynghori ac ar ddiwygio eu gwaith. Dywedir yn fynych ei fod ef a'i frodyr yn dirmygu'r ‘canu rhydd,’ ond camddeall yw hynny — gwir fod y Morysiaid yn ystyried y canu hwnnw'n is ei radd na'r ‘canu caeth,’ ond ynddo'i hunan yr oedd yn hollol gymeradwy ganddynt. Yn wir, yr oedd Lewis Morris o flaen ei oes yn ei werthfawrogiad o'r ‘penillion telyn,’ ac yn ddigri ddigon, y darn o'i waith ef ei hunan sy'n fwyaf adnabyddus heddiw yw ‘ Caniad y Gog i Feirionydd .’ Serch hynny, yr hen ganu cynganeddol oedd agosaf at ei galon (mor fore â 1720 yr oedd yn cywydda ), a'i ymdrech lwyddiannus ef a'i ‘ysgol’ i roi bywyd newydd i hwnnw fu ei gyfraniad pennaf i'n llenyddiaeth fel y cyfryw. A chyda'r diddordeb hwn yn yr hen brydyddiaeth, cydredai diddordeb yn yr iaith ei hunan, ac yn hynafiaethau'r genedl. Ei ddau arwr ym maes gramadeg a geirfa'r Gymraeg oedd John Davies o Fallwyd ac Edward Lhuyd [qq.v.] a'i freuddwyd oedd helaethu a diwygio gwaith John Davies , a orffwysai (fel y dywedodd Lewis Morris yn hollol gyfiawn yn 1761 ) ar sylfaen ry gyfyng o adnabyddiaeth o'r hen farddoniaeth, am na allai'r Dr. Davies gael hyd i ddigon o lawysgrifau. Casgler llawysgrifau, felly (neu wneud copïau ohonynt), a thynner y geiriau a'u hystyron, y ffurfiau a'r cystrawennau, allan o'r rheini. Gyda'i ddirmyg plwyfol o Ddeheuwyr, ni roes Lewis Morris gwbl chwarae teg i ymdrechion Moses Williams a William Gambold a Thomas Richards (gw. yr ysgrifau arnynt) — dylid er hynny nodi iddo ef a'i frodyr roi pob help i Richards i ddwyn allan ei eiriadur. Y mae'n berffaith sicr mai Lewis Morris , erbyn canol y 18fed g. , oedd yr awdurdod pennaf ar yr iaith Gymraeg , a chydnabyddid hynny gan bawb, yng Nghymru ac o'r tu allan iddi.
Boddwyd geiriadur arfaethedig Lewis Morris ym môr ei helbulon. Felly hefyd am waith arall o'i eiddo, sef geiriadur o enwau lleoedd yng Nghymru , a alwai ef yn Celtic Remains . Fe orffennwyd hwn, mae'n wir, yn 1757 , ond nid oedd gan y Cymmrodorion ddigon o arian i'w gyhoeddi; ni chyhoeddwyd mo'r rhan gyntaf ohono cyn 1878 , gan D. Silvan Evans , ac erys yr ail ran mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol — ar y mater hwn, gw. G. J. Williams yn atodiad 1943 i Gylchgrawn y Llyfrgell , 30-2. Methiant, drachefn, fu antur fore ganddo i gyhoeddi o'i wasg breifat (arni hi, gw. Ifano Jones , Printing and Printers in Wales ) ddetholion o'r hen bethau — ni ddaeth ond un rhifyn allan, Tlysau o'r Hen Oesoedd , 1735 . Pan sefydlodd ei frawd Richard yn 1751 Gymdeithas y Cymmrodorion , tybiai Lewis y datblygai'r gymdeithas honno'n ‘academi’ Gymreig , debyg i'r ‘ Academi Ffrengig ’ neu'r ‘ Royal Society ,’ a lluniodd restr faith (a welir yng Ngosodedigaethau'r Gymdeithas) o bynciau ymchwil i'r Cymmrodorion weithio arnynt. Ar waethaf y siom a gafodd yng nghyfarfoydd y gymdeithas (yn ystod yr ymweliadau â Llundain y cyfeiriwyd atynt), daliodd i anfon cynhyrchion dysgedig i Richard , i'w darllen yn y cyfarfodydd. Ond nid ar y llinellau uchelgeisiol hyn y datblygodd gweithgareddau'r Cymmrodorion . Rhwng popeth, ar wahân i'r Tlysau , y Plans , a'r Short History of the Manor of Creuthyn [ sic ] yn 1756 , ni chyhoeddwyd yn ystod bywyd Lewis Morris ddim o'i waith ond y brydyddiaeth ganddo sydd yn Diddanwch Teuluaidd 1763 , Hugh Jones o Langwm [q.v.] . Y mae cyfrolau lawer o'i lawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn y Llyfrgell Genedlaethol .
Bu Lewis Morris yn briod ddwywaith. Yn 1729 priododd eneth ifanc o'r enw Elizabeth Griffiths o Dŷ-wriddyn , Rhoscolyn , a fu f. cyn 1741 . O'u tri plentyn, bu'r ddwy ferch fyw ar ôl 1745 , sef Margaret ( 1731 - 1761 ), a briododd yn annosbarthus ac a fu farw'n adfydus, ac Ellen ( 1732 - 1823 ), a briododd ddwywaith ac a gafodd wyth o blant o'i phriodas gyntaf a phedwar o'r ail. Ar 20 Hydref 1749 cymerth Lewis Morris (a oedd ar y pryd yn byw yng Ngallt Fadog gerllaw Aberystwyth ) ail wraig, Anne Lloyd , aeres stad fechan Penbryn yn nyffryn Melindwr ( Goginan ); yn 1757 symudasant i Benbryn , ac yno y bu ef farw. Y mae gwahanol farnau ynghylch Anne Morris ; dygymyddai'n dda â Richard a William Morris , ond y mae beirniadaeth eu nai John Owen [q.v.] arni'n ddeifiol — a bu raid iddo ef fyw dan yr unto â hi. Ganed 10 o blant o'r ail briodas (bu chwech ohonynt fyw ar ôl eu tad), ac wrth raid nid ysgafnodd hyn feichiau Lewis Morris yn ei flynyddoedd diwethaf. Yr unig un o'r plant y mae'n rhaid ei enwi yw'r pedwerydd mab, WILLIAM MORRIS ( 1758 - 1808 ), a briododd aeres Blaen-nant , Llanfeigan , Brycheiniog , ac a gladdwyd yno ( Theophilus Jones , Hist. Brecknock (3ydd arg.), iv, 31) — hwn a ailgyhoeddodd Plans of Harbours ei dad. Mab iddo ef oedd Lewis Edward William Morris ( 1797 - 1872 ), cyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ; a mab i hwnnw oedd y bardd ( Syr ) Lewis Morris [q.v.] . Yn 1772 , daeth gweddw Lewis Morris yn ail wraig i William Jones o'r Gwynfryn yn Llancynfelin — disgynnydd o'i briodas gyntaf ef oedd yr hynafiaethydd William Basil Jones [q.v.] , esgob Tyddewi . Bu hi f. yn 1785 .