MORRIS, LEWIS (1760 - 1855), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Lewis Morris
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 2 Mehefin 1760 yng Nghoed-y-gweddill, Llangelynnin, Meirionnydd. Trowyd ef at grefydd yn 1789, wedi gwrando ar David Morris, Tŵrgwyn ym Machynlleth ac ar y clerigwr Methodistaidd John Williams, Lledrod yn Abermaw. Dysgodd ddarllen (ac yntau dros 30 oed), a dechreuodd bregethu yn 1791. Erlidiwyd llawer arno; bu raid iddo fynd yn unswydd yr holl ffordd i Lwyngwair yng ngogledd Sir Benfro (gweler dan Bowen, Llwyngwair) i gael 'trwydded bregethwr' a'i cadwai o hafflau'r fyddin. Cartrefol gan mwyaf oedd cylch ei wasanaeth. Y brif ffynhonnell (yn wir, yr unig ffynhonnell) ar ei hanes yw ei ' Adgofion Hen Bregethwr ' ef ei hunan, yn Y Traethodydd, 1847, 106-18. Ni raid ond chwanegu iddo farw 11 Mawrth 1855.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.