MORRIS
,
Syr
LEWIS
(
1833
-
1907
),
bardd
;
g.
23 Ionawr 1833
, yng
Nghaerfyrddin
, mab
Lewis Edward William
Morris
— yr oedd yn
or-ŵyr i
Lewis
Morris
(‘o
Fôn
’) [q.v.]
. Bu yn
ysgol ramadeg y Frenhines Elisabaeth
,
Caerfyrddin
, yn ysgolion y
Bont-faen
a
Sherborne
, ac yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
(
1851
; graddiodd yn
1856
), ac fe'i derbyniwyd yn
fargyfreithiwr
yn
1861
. Cyhoeddodd yn
1871
, eithr heb roddi ei enw wrtho,
Songs of Two Worlds
; daeth ail a thrydedd gyfres o dan yr un teitl yn
1874
a
1875
. Dilynwyd y rhain gan gyfrolau eraill o farddoniaeth; o'r rhain
The Epic of Hades
,
1876-7
, ydyw'r mwyaf adnabyddus a'r mwyaf uchelgeisiol. Y mae ei farddoniaeth yn iachus ac yn llifo'n rhwydd eithr heb fawr ysbrydoliaeth ynddi. Gwnaeth waith a bery'n hwy na'i farddoniaeth drwy
hyrwyddo addysg uchelraddol yng Nghymru
. Yn
1878
daeth yn
gydysgrifennydd
Coleg Prifathrofaol Aberystwyth
, bu'n
gyd-drysorydd
y sefydliad hwnnw,
1889-96
, ac yn
is-lywydd
o
1896
hyd ei farw. Ceisiodd lawer tro gael ei ddewis yn
aelod seneddol
, eithr methodd;
Rhyddfrydwr
ydoedd o ran ei wleidyddiaeth. Priododd,
1868
,
Florence Julia
Pollard
, a bu iddo ef a'i wraig ddwy ferch ac un mab. Bu f.
10 Tachwedd 1907
.
Llyfryddiaeth:
-
Dictionary of National Biography
;
-
Camb. Hist. of English Lit.
Awdur:
Yr Athro Gwyn Jones, M.A., (1907-99), Aberystwyth / Caerdydd.