MORRIS
,
MORRIS ap RHISIART
, neu
MORRIS
PRICHARD
(
1674
-
1763
),
tad
Lewis
,
Richard
,
William
, a
John
Morris
(gw. yr ysgrifau arnynt), a gŵr
Margaret
Owen
(
1671
-
1752
) o
Fodafon-y-glyn
yn
Llanfihangel-tre'r-beirdd
; fe'i g. ef yn y
Tyddyn Melus
yn yr un plwyf, a phriododd ym mis
Mehefin 1699
. Wedi geni ei fab hynaf (
1701
), aeth i fyw i'r
Fferem
, ond symudodd yn
1707
i
Bentrerianell
, gan ddal ymlaen gyda'i waith fel
cylchwr
, ac
amaethu
. Pan fu farw ei wraig, aeth ei ŵyres
Margaret
Owen
(merch ei ferch
Elin
) a'i gŵr yno i fyw gydag ef. Ymadawodd â
Phentrerianell
yn
1761
, a mynd i fyw mewn llety yn
Llannerch-y-medd
, lle y bu f.
25 Tachwedd 1763
. Cyfranogai yn
niddordebau llenyddol a hynafiaethol
ei feibion.
Llyfryddiaeth:
-
The Letters of Lewis, Richard, William, and John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid
Môn) 1728-1765
(gol.): , 1907–9
(gol. gan
J. H. Davies
;
-
mynegeion gan
Hugh Owen
);
-
Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86). Y Cymmrodor
(gol.): , xlix,
1947-9
(gol
Hugh Owen
) =
Y Cymmrodor
, 1877 ff
, xlix.
Awdur:
Hugh Owen, M.A., F.S.A., (1880-1953), Llanfair-pwll, Môn.