Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , ROBERT PRYS ( 1831? - 1890 ), hanesydd a hynafiaethydd adnabyddus yn ei ddydd fel ysgrifennwr ar bynciau Cymreig

(gw. e.e. erthygl ganddo yn Y Traethodydd , xliv (‘ Crybwyllion henafiaethol ’) ac fel pleidiwr dirwest . Fe'i coffeir heddiw ar gyfrif ei lyfr, Cantref Meirionydd , a gyhoeddwyd yn Nolgellau (lle yr oedd yr awdur yn byw) yn 1890 , ychydig wythnosau wedi iddo ef farw yno ar y dydd cyntaf o Fawrth . Er bod y gyfrol i raddau yn anwyddonol yn ôl safonau heddiw, y mae'n waith chwilotwr diwyd a gasglodd ei ddefnyddiau o nifer mawr o ffynonellau ac, oblegid hynny, y mae'r llyfr yn parhau'n ddefnyddiol.

Ffynonellau:

  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties 19 Mawrth 1890 ;
  • Y Goleuad , 6 a 13 Mawrth 1890 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54