Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , ROBERT (bu f. 1768 ), diwydiannwr ;

mab i Robert Morris o Bishop's Castle a Cleobury Mortimer . Yng Ngogledd Cymru y dechreuodd ei yrfa, a merch o Fachynlleth , Margaret Jenkins , oedd ei wraig; ond symudodd i Dredegar . Yn 1727 , ymunodd â Richard Lockwood ac Edward Gibbon (taid yr hanesydd) i brynu gwaith copr yng Nglandŵr ( Abertawe ); bu ganddynt wedyn weithiau yn Llangyfelach a'r Fforest , a melin gwifrau pres , a glofeydd . Yn y Clase (‘ Clasemont ’), rhwng Llangyfelach ac afon Tawe yr oedd Morris yn byw.

Yn union wedi ei farw ef cymerth ei ail fab, ( Syr ) JOHN MORRIS ( 1745 - 1819 ; g. 15 Gorffennaf 1745 ), gam a roes ei enw'n llythrennol ar y map. Nid yw'n hollol eglur pa un ai ef neu ei dad a gododd y ‘ castellated mansion of collegiate appearance ’ ( Walter Davies , General View of the Agriculture … of South Wales , i, 134) gerllaw'r Clase , yn gartref i ddeugain teulu o'i lowyr (gyda chrydd a theiliwr at eu gwasanaeth); ond iddo ef yn ddieithriad y mae'r llyfrau teithio ( John Evans , Malkin , Wood , etc.) yn priodoli codi'r pentre ‘ Morriston ,’ Treforus , y dywedir mai William Edwards y gweinidog a'r saer o Eglwysilan [q.v.] a'i cynlluniodd. Urddwyd John Morris yn farwnig yn 1806 ; aeth i fyw i Sketty Park , a bu f. 25 Mehefin 1819 . Erys y farwnigiaeth hyd heddiw, ond darfu cyswllt y teulu â diwydiant ers tro mawr iawn. (Rhoddwyd papurau Robert Morris , bellach, i lyfrgell Coleg y Brifysgol yn Abertawe ).


Gwahanol iawn fu gyrfa brawd hŷn Syr John , sef ROBERT MORRIS ( 1743 neu 1744 - 1797? ). Aeth ef ( 1760 ) i Goleg Oriel yn Rhydychen , a graddio yn 1764 ; galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1767 , a dadleuai yn y Sesiwn Fawr yn Neheudir Cymru . Ond mewn materion gwleidyddol yr oedd ei ddiddordeb; pleidiai John Wilkes , ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf y ‘ Society for Supporting the Bill of Rights ’ a gychwynnwyd gan Horne Tooke yn 1769 i gefnogi Wilkes ; ymddiswyddodd yn Awst 1770 . Cwympodd i gryn anfri (a cholli cyfeillion a chydweithwyr fel Watkin Lewes [q.v.] ), fis Mai 1772 , trwy ddianc i'r Cyfandir gyda geneth 14 oed o aeres a oedd yn ‘ward’ iddo; gwrthododd clerigwr yn Lille eu priodi a charcharwyd yntau yno gan awdurdodau'r dref am amser, ond llwyddodd i fynd drwy'r seremoni yn Holand ac yn Denmarc ; diddymwyd y ‘briodas’ gan y llysoedd Prydeinig yn 1784 . Yn y cyfamser, daeth Morris ddwywaith o leiaf i helynt yn y wlad hon. Heriwyd ef yn 1782 i ymladd gornest am athrod ar y cyn-gadfridog Americanaidd Benedict Arnold ; tawelwyd yr anghydfod hwnnw, ond yn yr un flwyddyn bu Morris yn ‘second’ mewn gornest arall, yn Hyde Park , a chan i un o'r ymladdwyr farw, bu'n rhaid i'r blaid arall sefyll eu prawf yn yr Old Bailey am lofruddiaeth — dyfarnwyd Morris yn ddieuog. Ymddengys ei enw ar restr aelodau mygedol Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1778 . Bu f. ‘in the East Indies ’; dywed Foster mai ar 29 Tachwedd 1793 , ond yn ôl Burke's Peerage 1797 oedd y flwyddyn.

O dair chwaer y brodyr hyn, priododd Margaret â Noel Francis Desenfans , casglwr darluniau y mae ysgrif arno yn y D.N.B. , a phriododd Bridget i deulu Lockwood , partner ei thad.

Ffynonellau:

  • ( a ) Burke's … Peerage, Baronetage, and Knightage ;
  • Thomas Nicholas , The History and Antiquities of Glamorgan , 179;
  • George Grant Francis , The Smelting of Copper in the Swansea District, from the time of Elizabeth to the present day , Abertawe, 1867 (mynegai).
  • ( b ) Foster , Alumni Oxonienses ;
  • E. Alfred Jones , yn Y Cymmrodor , xxix, a'r cyfeiriadau pellach a roddir yno;
  • Western Mail , 18 Tachwedd, 1952 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54