MORTIMER, ROGER de (1256? - 1326), arglwydd y Waun (Chirk)

Enw: Roger De Mortimer
Dyddiad geni: 1256?
Dyddiad marw: 1326
Rhiant: Matilda Brampton (née de Braose)
Rhiant: Roger de Mortimer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd y Waun (Chirk)
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

trydydd mab Roger de Mortimer, chweched barwn Wigmore, a Matilda, ferch William de Braose. Cysylltwyd ef gyntaf â'r Waun yn 1282, pan roddwyd iddo diroedd Llywelyn Fychan, yn cynnwys yr ardal o amgylch y Waun. Effaith y rhodd hon oedd creu arglwyddiaeth newydd ar y Gororau. Galwyd arno i chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn gwrthryfel Rhys ap Maredudd, arglwydd Ystrad Tywi, 1287-8. Yng Ngorffennaf 1287 archwyd iddo ddanfon 400 o wŷr traed, ac yn Nhachwedd 1287 a 1288 gorfu iddo eto weithredu yn erbyn y gwrthryfelwr. Tua diwedd teyrnasiad Edward I tynnodd arno lid y brenin, a syrthiodd i anfri am dipyn. Pan goronwyd Edward II, fodd bynnag, ailenillodd ffafr, a rhoddwyd iddo diroedd lawer, a'i godi i safle swyddogol uchel. Yn Chwefror 1309/10 rhoddwyd cestyll Blaenllyfni a Bwlch-y-ddinas ym Mrycheiniog iddo, tra rhyngai fodd y brenin, ac, yn Nhachwedd 1310, am ei oes. Ar 15 Ionawr 1307/8, apwyntiwyd ef yn ustus dros Gymru gyfan, tra rhyngai fodd y brenin, a daliodd y swydd hon hyd 19 Chwefror 1314/5, pan ddilynwyd ef gan John de Grey yng Ngogledd Cymru a William Martyn yng Ngorllewin a De Cymru. Ar 23 Tachwedd 1316, fodd bynnag, ailroddwyd swydd ustus Gogledd Cymru iddo, tra rhyngai fodd y brenin, ac ar 7 Hydref yn y flwyddyn ddilynol gwnaed ef yn ustus Gogledd a De Cymru am ei oes. Yn ystod y cyfnod hwn, daliodd hefyd, am ysbeidiau, swydd ustus esgobaeth Tyddewi, gan amlaf yn ei ddwylo'i hun, ond unwaith mewn cysylltiad â Robert de Malleye. Rhwng 1307 a 1320, drwy ei nerth ef ei hun, a'i nai Roger o Wigmore, gwnaed y teulu yn un o'r cryfaf yn y wlad. Yn 1321 ymunodd yr ewythr a'r nai â iarll Henffordd yng nghweryl hwnnw â Hugh le Despenser ynglŷn â meddiannu Gŵyr, Morgannwg. Ymladdasant yn llwyddiannus yn Ne Cymru, ond wedi iddynt gymryd arfau yn erbyn y brenin, gorchfygwyd hwy yn Amwythig, 22 Ionawr 1321/2. Collasai Roger o'r Waun ei swydd fel ustus Cymru ar 5 Ionawr 1321/2, ac yn awr carcharwyd ef yn Nhŵr Llundain ' lle bu farw Awst 1326.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.