Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORUS BERWYN ( fl. c. 1553-1615 ), bardd ;

brodor, y mae'n debyg, o ardal mynyddoedd Berwyn . Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Cywyddau i wahanol foneddigion Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf o'i gerddi; yn eu plith ceir rhai i Sion Salbri o Lywenni a'i wraig Catrin o'r Berain , Syr Wiliam Morus o'r Clenennau , Rhobert Wyn o'r Foelas , Tomas Fychan o'r Hafod , capten Wiliam Tomas . Ceir hefyd gywydd ganddo i'r esgob Wiliam Morgan , a nifer o englynion ar amrywiol destunau.

Ffynonellau:

  • Additional Manuscripts in the British Museum 14879, 14898;
  • Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 6;
  • Cardiff Manuscripts 12, 19, 20, 22, 84;
  • Llawysgrifau Llanstephan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 35, 118, 122, 123, 124, 125, 133;
  • Llawysgrif Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 161;
  • NLW MSS 253, 278, 431, 1553, 2691, 6495, 6496;
  • Llawysgrifau Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 87, 93, 121;
  • ‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 ;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present , 1908 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 .

Awdur:

Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54