Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORYS ap HYWEL (ap TUDUR) ( fl. c. 1530 ), bardd ;

ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Cywyddau crefyddol yw'r mwyafrif ohonynt, ond ceir hefyd rai i Siôn Wyn o'r Tŵr , Edwart Pilstwn o Emral , a Llywelyn ap Ieuan ap Hywel o Foelyrch .

Ffynonellau:

  • Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1 (128);
  • Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 6 (52);
  • Llawysgrif Chirk Castle yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 5 (27);
  • Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 207 (19), 244 (48b);
  • Llawysgrif Gwysaney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 25 (215);
  • NLW MSS 435 (28b), 675 (6b), 722 (10, 50), 1553 (470, 524, 538), 1559 (588), 2288 (82), 5272 (26), 5273 (31, 40), 8330 (355), 13064 (46), 13071 (199), 13081 (62), 13168 (5);
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 ;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present , 1908 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54