Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MOSTYN (TEULU), Mostyn Hall , sir y Fflint , etc.

Yn ôl History of the Family of Mostyn of Mostyn , 1925 , a gynullwyd gan y 3ydd barwn Mostyn a T. Allen Glenn , daeth y tir y saif plas Mostyn arno yn awr yn eiddo teuluol bum canrif yn ôl trwy briodas IEUAN FYCHAN (a fu f. 1457 ) , Pengwern , Llangollen (a Thre Castell , sir Fôn ) ag ANGHARAD , merch ac aeres HYWEL (a gweddw Edward Stanley yn ôl N.L.W. MS. 1557 ). Ni allai awduron y gyfrol ddywedyd pa mor hir cyn hyn y bu'r tir hwn yn eiddo i hynafiaid Hywel , eithr tybient ei fod yn rhan o diroedd ei gyndad, sef Edwin o Degeingl . Yn 1301 talodd ITHEL wrogaeth i'r tywysog Edward , iarll Caer , am ei stadau yn sir y Fflint . Daliai Hywel a'i ddisgynyddion arglwyddiaeth Mostyn ar brydles hyd y bu i Syr Roger Mostyn (gw. isod) ddyfod i feddiant ohoni dros byth yn 1631 . Pengwern , sir Ddinbych , lle y ganwyd Ithel Fychan , ydoedd cartref gwreiddiol y teulu hwn. Daeth Gloddaeth , sir Gaernarfon , i feddiant y teulu ychydig cyn 1460 trwy briodas HOWEL AP ( Mostyn a Pengwern ) â Margaret , aeres Madog Gloddaeth ( siryf sir Gaernarfon , 1325-6 ), ac, fel y gwelir, daeth Bodysgallen , sir Gaernarfon , hefyd yn un o blastai'r teulu

Rhoddir manylion o'r cenedlaethau cynnar yn yr History . Aeth Ieuan , pedwerydd mab Iorwerth Ddu (o deulu Pengwern ), i wasanaeth yr Eglwys , o dan yr enw John Trevor [q.v.] .

Yn ôl y bardd Guto'r Glyn yr oedd IEUAN ( Pengwern a Mostyn ) yn fardd ac yn delynor ; gw. Phillipps MS. 2160 yn Llyfrgell Caerdydd a N.L.W. MS. 3027 (sef Mostyn MS. 96 ). O ochr ei fam yr oedd yn gyfyrder i Edmund , iarll Richmond , a Jasper Tudor , iarll Pembroke . Yn 1415 yr oedd yn ysgwïer yng ngosgordd Thomas Fitzalan , iarll Arundel a Surrey ac arglwydd y Waun (Chirk) . Yr oedd ei fab, HOWEL AP , yn bleidiol i hawliau teulu Lancaster ; credir i'w gâr, Jasper Tudor , geisio lloches ym Mostyn yn 1464 . Gwraig Howel oedd Margaret , merch ac aeres Gloddaeth .



Etifeddodd eu mab hwy, RICHARD AP , Gloddaeth a Thre'r Garnedd , trwy ei fam. Dyma'r Richard ap Howel a oedd yn llywydd eisteddfod gyntaf Caerwys ( 1523 ); gydag ef yr oedd Syr WILLIAM GRUFFYDD a Syr Roger Salusbury , Llewenni , ac yr oedd y beirdd Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan a Tudur Aled yn cynorthwyo'r tri. Rhydd Thomas Pennant ( Hist. of Whiteford ) hanes ymweliad Harri o Richmond (y brenin Harri VII wedi hynny) â Mostyn . Bu Richard ap Howel yn ymladd dros Harri ym mrwydr Bosworth , ac ychydig cyn iddo farw (yn Mostyn ar 7 Chwefror 1539/40 ) bu'n rheithor segurswydd Whitford , sir y Fflint .

Trwy ei wraig Catherine , merch Thomas Salusbury ( yr hynaf ) , Llewenni , yr oedd Richard ap Howel yn dad Thomas ( Mostyn ) , Hugh (a fu farw'n ieuanc), Peter ( Peyrs , Piers ) , hynafiaid Mostyniaid Talacre [q.v.] , a phedair merch; o'r merched hyn daeth Janet yn wraig i'r bardd Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan .



THOMAS (bu f. 1558 ),

mab hynaf Richard ap Howel , oedd y cyntaf i'w adnabod wrth yr hyn a ddaeth, o hyn ymlaen, yn gyfenw'r teulu (gw. N.L.W. MS. 1560 ). Fel rhai o'i gyndadau, yr oedd Thomas Mostyn yn noddwr beirdd ( N.L.W. Pen. MS. 100 , Cardiff MS. 64 ).


Bu ei fab hynaf ef, WILLIAM MOSTYN , yn gwasnaethu o dan William Herbert , iarll Pembroke , adeg gwrthryfel Wyatt . Bu'n aelod seneddol dros sir y Fflint ddwywaith ( 2 Mawrth 1553/4 a Tachwedd 1554 ), yn siryf sir y Fflint deirgwaith, ac yn siryf sir Gaernarfon unwaith ( 1566-7 ). Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir y Fflint ar 8 Mai 1572 hefyd, ac yr oedd yn aelod hyd ei farw yn 1576 . Yr oedd yn un o'r comisiynwyr a enwyd gan y frenhines Elisabeth i gynnal ail eisteddfod Caerwys , 1568 ; dywedir yn y comisiwn — ‘ William Mostyn esquior and his auncestors have had the gyfte and bestowing of the Sylver harpe appertayning to the Cheff of that facultie .’ Bu f. 19 Medi 1576 .


Mab hynaf William Mostyn o'i wraig gyntaf ( Margaret , merch Robert Powel , Whittington ) oedd THOMAS MOSTYN ( 1535?1618 ), Syr Thomas Mostyn yn ddiweddarach. Bu'n siryf Môn (ddwywaith), sir y Fflint (ddwywaith), a sir Gaernarfon (unwaith); bu hefyd yn ‘ Custos Rotulorumsir Gaernarfon . Am fanylion pellach yn ei gylch — yr oedd, e.e., yn aelod o Gyngor y Goror , 1603-18 — gw. yr History a Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers , etc. Credir iddo wneuthur ychwanegiadau at Blasty Gloddaeth ; gwyddys iddo gasglu llyfrgell fawr .


Aer Syr Thomas Mostyn oedd ei ail fab Syr ROGER MOSTYN ( 1559/60 - 1642 ). Cafodd ei addysg yn Rhydychen (ymaelododd yng Ngholeg Brasenose 8 Mai 1584 ) ac yn Lincoln's Inn ( 1588 ). Bu'n siryf Môn , 1589-90 , sir y Fflint , 1608-9 , 1626-7 , aelod seneddol sir y Fflint , 1621-2 , a gwnaethpwyd ef yn farchog 23 Mai 1606 . Priododd, 1596/7 , Mary ( 1581 - 1653 ), merch hynaf Syr John Wynn o Wydir [q.v.] . Ceir ei enw'n fynych, felly, yn y Calendar of Wynn Papers ; gw. e.e. hanes y rhan a gymerth yn yr anghydfod rhwng ei dad-yng-nghyfraith a'r esgob William Morgan [q.v.] , cyfieithydd y Beibl yn yr iaith Gymraeg , ynglŷn â phrydlesoedd Llanrwst . Ymddengys mai ef oedd y pwysicaf o ddirprwy-raglawiaid sir y Fflint mewn cyfnod pryd yr oedd mynych geisiadau a gorchmynion yn dyfod i'r sir oddi wrth arglwydd lywydd Cyngor y Goror . Bu f. 18 Awst 1642 .


Bu ei fab hynaf, Thomas Mostyn ( c. 1598 - 1641 ), farw flwyddyn o'i flaen. Ymhlith meibion eraill Syr Roger yr oedd William Mostyn , archddiacon Bangor , a Richard Mostyn (bu f. 1627 ), milwr a fu'n gwasnaethu yn Iwerddon , yr Iseldiroedd , etc.

Ceir manylion am y THOMAS MOSTYN a fu farw yn 1641 yn yr History ac yn y Calendar of Wynn Papers . Priododd Elizabeth , merch Syr James Whitelock , prif farnwr Caer . Wedi priodi bu'n byw yn Cilcain , sir y Fflint , a threulio llawer o'i amser yn Llundain hefyd. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1623 ar gais dug Buckingham .



Ei fab hynaf ef oedd Syr ROGER MOSTYN ( 1623/4 - 1690 ), marchog a barwnig . Er nad oedd yn 20 oed pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan daeth yn gapten yn fuan, ac yn gyrnol ymhen ychydig fisoedd wedi hynny. Penododd Siarl I ef yn llywiawdr castell a thref Fflint . Am yr ychydig flynyddoedd nesaf y mae ei hanes fel person unigol yn gymysg â'i fywyd a'i weithredoedd fel swyddog ym myddin plaid y brenin ; gw. yr History ; J. R. Phillips , Civil War in Wales ; Calendar of Wynn Papers ; Whitelock , Memorials ; a Henry Taylor , ‘ The Flintshire Militia, with a short biography of Sir Roger Mostyn … its first Colonel ,’ yn Jnl. of the Chester Archaeol. and Hist. Soc. , 1891 . Yr oedd ei ŵyr yn amcangfrif i'w daid golli tua £60,000 yn ystod y rhyfel. Yr oedd mewn cyswllt agos â'r gwŷr a geisiai adfer y frenhiniaeth. Wedi'r Adferiad fe'i gwnaethpwyd yn farchog , dewiswyd ef yn un o'r gwŷr a oedd i'w gwneuthur yn farchogion Urdd y Royal Oak , cafodd ei ddyrchafu'n farwnig ( 3 Awst 1660 ), a daeth yn ddirprwy-raglaw sir y Fflint . Pan aeth dug Beaufort , llywydd Cyngor y Goror , ar ei daith rwysgfawr trwy Gymru yn 1684 , fe'i croesawyd ym Mostyn gan Syr Roger ; treuliodd y llywydd ddydd Iau, 24 Gorffennaf , ‘ in viewing the lands and various works and Machines of the Lead & Colemines belonging to Sir Roger Mostyn … ’ ( Thomas Dineley , The Beaufort Progress ; sylwer ar y darlun o blasty Mostyn ac o un o'r peiriannau codi glo). Yn 1687 perswadiwyd y brenin Iago II gan ei wraig Mary ( o Modena ) i drosglwyddo capel Gwenfrewi , Treffynnon , iddi hi, ac ysgrifennodd y frenhines at Syr Roger Mostyn i ofyn iddo drefnu cario allan ei dymuniadau hi ynglŷn â'r capel. Bu Syr Roger f. ym Mostyn ar 4 Hydref 1690 . Buasai'n briod deirgwaith: (1), c. Gorffennaf 1642 , â Prudence , merch Syr Martin Lumley ; (2) Mary , merch hynaf Thomas , is-iarll Bulkeley , Baron Hill , sir Fôn; a (3), Lumley , merch hynaf George Coetmor , Coetmor .


Aer Syr Roger Mostyn , y barwnig 1af , oedd Syr THOMAS MOSTYN ( 1651 - 1700? ), mab o'r ail wraig. Cafodd ei addysg yn Christ Church , Rhydychen (ymaelododd 15 Mai 1667 ). Yr oedd yn noddwr i'r celfau cain ac ychwanegodd lawer o gyfrolau at lyfrgelloedd Gloddaeth a Mostyn . Bu'n ddirprwy-raglaw sir Gaernarfon c. 1673 , yn siryf y sir honno 1689 , sir Fôn 1691-2 a bu'n aelod seneddol dros sir Gaernarfon ( 1673 ’, Chwefror 1678/9 , Awst 1679 , a 1681 ). Yn 1689 enwyd ef yn un o gomisiynwyr trethi'r Llywodraeth yn sir y Fflint . Priododd Bridget , merch D’Arcy Savage , Leighton , sir Gaer , a bu saith mab a phedair merch o'r briodas; ymysg y meibion yr oedd Roger , a'i dilynodd, Thomas , aelod seneddol dros Fflint , a John , a fu yn Ysgol Westminster ac yn Christ Church , Rhydychen . Yr oedd Syr Thomas yn gyfeillgar iawn â William Lloyd , esgob Llanelwy [q.v.] — un o'r ‘Saith Esgob’; gofynnai gyngor yr esgob ar bwnc addysg ei blant. Ceir caniadau iddo gan feirdd Cymreig yn Mostyn MS. 96 . Yr oedd yntau'n enwog fel casglwr llawysgrifau Cymraeg gyda gogwydd arhennig tuag at astudio achau .


Aer Syr Thomas Mostyn oedd Syr ROGER MOSTYN ( 1673 - 1734 ), y 3ydd barwnig . Bu yng Ngholeg Iesu , Rhydychen (ymaelododd 10 Chwefror 1689/90 ). Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir y Fflint , 1701 a dychwelwyd ef dros y sir a thros fwrdeisdrefi'r Fflint yn 1702 , eithr dewisodd eistedd dros Gaer yn y Senedd honno. Yn y Senedd nesaf ( 1705-8 ) etholwyd ef dros sir y Fflint a bu'n eistedd dros y sir hyd 1734 (oddieithr yn 1713 pan eisteddai dros y bwrdeisdrefi). Disgrifir ei yrfa seneddol — Tori ydoedd — yn yr History . Priododd, 1703 , Lady Essex Finch , merch Daniel , iarll Winchilsea , a bu iddynt chwe mab a chwe merch. Ymhlith y meibion yr oedd Thomas Mostyn , yr aer, John Mostyn , a ddaeth yn gadfridog ym myddin Prydain , a Savage Mostyn , a ddaeth yn is-lyngesydd (‘ Vice-Admiral of the Blue ’), yn ‘Comptroller’ y llynges , ac yn un o arglwyddi y morlys ; am hanes y milwr a'r morwr gw. yr History a'r D.N.B. Dewiswyd Syr Roger yn gwnstabl castell y Fflint . Y mae The Constant Couple , drama gan George Farquhar , wedi ei chyflwyno iddo. Bu f. 5 Mai 1734 .


Fel ei daid, yr oedd y 4ydd barwnig , Syr THOMAS MOSTYN ( 1704 - 1758 ), mab y 3ydd barwnig a Lady Essex Finch , yn ymddiddori'n fawr mewn llenyddiaeth . Cyn iddo briodi Sarah , merch Robert Western , Llundain , bu'n trafaelio trwy wahanol wledydd yn Ewrop — bu allan o'r wlad o fis Hydref 1723 hyd fis Mai 1728 . Bu iddo ef a'i wraig bedwar mab a phum merch; un o'r merched oedd Anne , a briododd Thomas Pennant , y naturiaethwr a'r trafaeliwr [q.v.] . Dewiswyd Syr Thomas yn aelod seneddol dros sir y Fflint yn 1734 , 1747 , a 1754 . Casglodd lyfrau a llawysgrifau . Bu f. 24 Mawrth 1758 .


Ganwyd ei fab ef, Syr ROGER MOSTYN ( 1734 - 1796 ), y 5ed barwnig , 13 Tachwedd 1734 . Dilynodd ei dad fel cynrychiolydd y sir yn y Senedd , ac yr oedd yn aelod hyd ei farw. Daeth hefyd yn arglwydd-raglaw y sir, ac yr oedd yn un o is-lywyddion y Welsh Charity School , Llundain . Priododd y 5ed barwnig , 12 Mai 1766 , Margaret , ferch y Parch. Hugh Wynn , Bodysgallen a Berthddu , a'i wraig Catherine , chwaer William Vaughan , Corsygedol (gw. Vaughan , Corsygedol , sir Feirionnydd ), ac aeres Robert Wynn , Bodysgallen . Ymysg y plant o'r briodas hon yr oedd (1) Elizabeth , a briododd Syr Edward Pryce Lloyd , Pengwern , sir y Fflint , a Bodfach , sir Drefaldwyn , barwnig (isod); (2) Thomas Mostyn , yr aer; a (3) Anna Maria , a briododd, yn 1802 , Syr Robert Williames Vaughan [q.v.] , Nannau , sir Feirionnydd , barwnig . Yr oedd Syr Roger hefyd yn ymddiddori yn llenyddiaeth a hanes Cymru : cyflwynodd Evan Evans (‘ Ieuan Brydydd Hir ’) ei Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards iddo. Bu f. 26 Gorffennaf 1796 .


Cadwodd y 6ed barwnig , Syr THOMAS MOSTYN ( 1776 - 1831 ), at draddodiad y teulu ynglŷn â chynrychioli sir y Fflint yn y Senedd . Bu'n siryf sir Gaernarfon , 1798 , a sir Feirionnydd , 1799 . Bu f. yn ddibriod 17 Ebrill 1831 , daeth y teitl i'w derfyn, ac aeth y stadau yn eiddo i Syr Edward Pryce Lloyd ( 1768 - 1854 ) (isod), y barwn Mostyn 1af (crewyd 10 Medi 1831 ).


Rhoddir tras teulu Lloyd yn llyfrau Burke , Debrett , etc., ar y bendefigaeth, etc. Buasai'r teulu â chysylltiad â siroedd y Fflint a Dinbych ers canrifoedd. Bu Syr EDWARD LLOYD ( 1710? - 1795 ), y barwnig 1af , yn ysgrifennydd rhyfel . Ar 29 Awst 1778 y gwnaethpwyd ef yn farwnig , ac yr oedd y teitl i fynd i'w nai Bell Lloyd . Eithr bu ef f. ar 6 Mai 1793 , sef o flaen ei ewythr. Pan fu'r barwnig 1af farw aeth y teitl a'r stadau i'w or-nai, Syr EDWARD LLOYD ( 1768 - 1854 ), yr ail farwnig , mab Bell Lloyd , Pontriffith ; yr oedd i'r Bell Lloyd hwn ail fab, yntau'n Bell Lloyd , a oedd yn amaethydd goleuedig. Priododd y barwnig 1af Elizabeth , trydedd merch Syr Roger Mostyn , y 5ed barwnig ; yr oedd hi yn chwaer Syr Thomas Mostyn , y 6ed barwnig ac yn gyd-aer ag ef, a chan iddo ef farw'n ddibriod (ar 17 Ebrill 1831 — gw. uchod) daeth stadau Mostyn i feddiant mab Elizabeth , sef Syr EDWARD LLOYD , a ddaeth yn farwn 1af Mostyn , ac a etifeddodd holl stadau Mostyn . Hyn sydd yn cyfrif paham y mae ymhlith y Mostyn MSS. a ddaeth i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1918 lawysgrifau a fu yn llyfrgelloedd Gloddaeth , Corsygedol , Nannau , etc.


Bu barwn 1af Mostyn f. 3 Ebrill 1854 a dilynwyd ef gan ei fab hynaf, EDWARD LLOYD ( 1795 - 1884 ), yr ail farwn Mostyn , arglwydd-raglaw sir Feirionnydd . Ychwanegodd ef ‘ Mostyn ’ at y cyfenw ‘ Lloyd .’

Ffynonellau:

  • Rhoddir y prif ffynonellau yn yr ysgrif.
  • Atynt hwy ychwaneger Adroddiadau'r 'Historical Manuscripts Commission' , R.W.M. (gan J. G. Evans ), I, i, 1898 , a Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales , 1940 ff , i, 261-3;
  • NLW MS 4965.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

MOSTYN (TEULU), Mostyn Hall ( Bywg. , 635)

Yr ail farwnig a briododd Elizabeth , trydedd ferch Syr Roger Mostyn . Daeth stadau Mostyn i feddiant gŵr Elizabeth , ac nid i feddiant mab Elizabeth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54