Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MOSTYN (TEULU), Talacre , sir y Fflint .

Y mae Mostyniaid Talacre yn disgyn o Peter ( Peyrs , Piers ) , mab Richard ap Howel a'i wraig Catherine , merch Thomas Salusbury , yr hynaf , Llewenni — am Peter a Richard ap Howel gw. yr erthygl ar Mostyn (Teulu), Mostyn . Crewyd y farwnigiaeth yn y teulu hwn yn 1670 , sef pan wnaethpwyd EDWARD MOSTYN yn farwnig , ac erbyn heddiw y mae rhif y barwnigiaid yn 12. Aelod o'r teulu hwn oedd FRANCIS MOSTYN ( 1860 - 1939 ), pedwerydd mab yr 8fed barwnig . Daeth ef yn ‘ Vicar Apostolic of Wales ’ yn 1895 ; gwnaethpwyd ef yn esgobMenevia ’ yn 1898 ; a bu'n archesgob Caerdydd o 1921 hyd y bu f. ar 25 Hydref 1939 .

Ffynonellau:

  • Hanes byr yn History of the family of Mostyn of Mostyn , Llundain, 1925 ;
  • manylion llawnach yn llyfrau cyfeirio Burke, Debrett, Kelly, ac eraill;
  • marw-goffa yr archesgob yn The Times , 26 Hydref 1939 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54