Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NASH, JOHN (1752-1835), pensaer; g. yn Aberteifi. Prentisiwyd ef gyda Syr Robert Taylor; wedi hynny ymsefydlodd yn ymyl Caerfyrddin. Perswadiwyd ef gan nifer o gyfeillion i ddechrau busnes fel pensaer; gwnaeth hynny ac yn fuan iawn daeth yn enwog. Efe a gynlluniodd garchardy'r sir yn nhref Aberteifi, ynghyd â ffrynt orllewinol a chabidyldy eglwys gadeiriol Tyddewi. Symudodd i Lundain a daeth yn fydenwog ar gyfer ei greadigaethau gorchestol megis Regent's Park a'r rhesi tai yn y gymdogaeth, Regent Street, a'r Marble Arch. Yr oedd yn noddwr hael i artistiaid. Bu f. 13 Mai 1835 yn East Cowes.

Llyfryddiaeth:

  • Papworth, Dict. of Architecture;
  • D.N.B.;
  • T. M. Rees, Welsh Painters ….

Awdur:

Y Parch. Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd

Atodiadau a chywiriadau:

NASH, JOHN (Bywg., 641). Yn ôl Syr John Summerson, ceidwad Amgueddfa Soane, ac awdur John Nash, Architect to King George IV (1935), yn Llundain y g. ef — ei dad yn saer melinau yn Lambeth. Hawliai ei fod yn Gymro o waed, ond yn perthyn i'r tylwyth o'r enw Nash yn sir Caerwrangon.