Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NASH, RICHARD (‘Beau Nash ’; 1674-1761), g. yn Abertawe 18 Hydref 1674, bu f. yn Bath 3 Chwefror 1761, a chladdwyd â rhwysg anarferol yn Bath Abbey. Adroddir ei yrfa hynod, a'r modd y dyrchafodd safle dinas Bath fel canolfan ffasiynol, yn ysgrif Thomas Seccombe yn y D.N.B., heb sôn am lu o lyfrau eraill. Ei dad oedd Richard Nash, a aned yn nhref Penfro ond a oedd wedi ymsefydlu yn Abertawe'n bartner mewn gwaith gwydr. Ni wyddys hyd yn hyn ddim o'i dras. Gellir nodi bod teulu o'r enw Nash wedi bod yn sgwïeriaid Nash ym mhlwyf Llangwm yn sir Benfro (W. Wales Hist. Records, ii, 36-7; Laws, Little England, 445), teulu o ‘newydd-ddyfodiaid’ i'r sir meddai Fenton (efallai o dref Caerfyrddin, lle'r oedd yn 1586 fasnachwr pwysig o'r enw Richard Nash), a theulu yr oedd yr enw ‘Richard’ yn frith ynddo. Ond darfu'r teulu hwnnw mewn aeresau. Fe allai, er hynny, i ryw fab iau o'r tylwyth droi at fasnach a chychwyn cainc newydd (a gwerinol), heb anghofio'r enw ‘Richard.’ Yr oedd mam ‘Beau Nash’ yn nith i John Poyer [q.v.] o dref Penfro. Addysgwyd Nash yn ysgol y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, ac ymaelododd (fis Mawrth 1691/2) yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ond ni raddiodd.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.