NASH, DAVID WILLIAM (bu f. 1876/7), hynafiaethydd ac ysgrifennwr ar lenyddiaeth Gymraeg gynnar;
trigai yn Cheltenham. Bu yn aelod o'r ‘Cambrian Institution’ o 1858 hyd 1864 a chyfrannai erthyglau a nodiadau i'w chylchgrawn. Etholwyd ef yn F.S.A. ar 4 Chwefor 1864. Ef oedd awdur y gweithiau canlynol: On the Antiquity of the Egyptian Calendar, 1845; Taliesin, or the Bards and Druids of Britain … 1858; On the History of the Battle of Cattraeth and the Gododin of Aneurin, 1861; The Pharaoh of the Exedus, 1863; ‘Merlin the Enchanter and Merlin the Bard,’ traethawd a gyhoeddwyd yng nghyfrol yr Early English Text Society am 1869. Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau ar ddaeareg Cheltenham a'r cylch. Hysbyswyd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr o'i farwolaeth rhwng Ebrill 1876 ac Ebrill 1877. [Gw. Cymm., xxviii, 18-22.]
Llyfryddiaeth:
- N.L.W. MS. 9268;
- Cambrian Jnl., 1858-64;
- Proc. Soc. Antiq., ail gyfres, ii, 349; ibid., vii, 199;
- B.M. Cat. P.B., 1892;
- R. Austin, Cat. Glos. Colln., 1928, 240, 498, 543.
Awdur:
Miss Mary Gwyneth Lewis, (1912-99), Aberystwyth