Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NELSON, ROBERT (1656-1715), dyngarwr, cefnogwr i'r S.P.C.K., a ‘non-juror'; g. yn Llundain 22 Mehefin 1656, yn fab i John Nelson, ‘Turkey merchant’ cyfoethog, a'i wraig Delicia (?Dilys), ferch Lewis Roberts [q.v.] o'r Biwmares, yr economydd. Yr oedd Robert Nelson felly'n hanner Cymro, a phriodol ddigon fu i un o'i weithiau, A Companion for the Festivals and Fasts of the Church of England (1704; ailargraffwyd ef o leiaf 36 o weithiau) gael cyfieithiad Cymraeg, Cydymaith i Ddyddiau Gwylion ac Ymprydiau Eglwys Loegr, 1712, gan Thomas Williams, ‘Eglwyswr Dimbech’ [q.v.]. Adroddir gyrfa Nelson yn bur llawn gan Leslie Stephen yn y D.N.B. Yr oedd yn wrth-Babyddol, er bod ei briod yn aelod o Eglwys Rufain; ond yn Uchel-Eglwyswr mor gryf nes gwrthod tyngu ffyddlondeb i linach 1688. Bu'n flaenllaw iawn ym mudiad y seiadau, yn y S.P.C.K., yn y S.P.G., ym mudiad y Dr. Bray i ddarparu llyfrgelloedd clerigol, ac yn y gwaith o sefydlu ysgolion elusennol. Sgrifennodd ddwsin o leiaf o lyfrau neu draethodau crefyddol, gan gynnwys cofiant i'w hen athro George Bull, a fu'n esgob Tyddewi o 1705 hyd 1710. Bu f. 16 Ionawr 1714/5 yn nhŷ ei gyfnither, ferch Syr Gabriel Roberts [q.v.]; gadawodd arian mawr i achosion da.

Llyfryddiaeth:

  • Seiliwyd yn bennaf ar y D.N.B.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.