NEWCOME, RICHARD (1779-1857), clerigwr,
g. 8 Mawrth 1779 yn Gresford, ger Wrecsam (lle yr oedd ei dad yn ficer 1764-1803), mab Henry Newcome ac Elizabeth ei wraig, a gor-nai Richard Newcome, esgob Llandaf (1755-61) a Llanelwy (1761-9). ‘Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Queens’, Caergrawnt, a graddio'n B.A. yn 1800 ac M.A. yn 1804. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bagot o Lanelwy, Medi 1801, ac yn offeiriad gan yr esgob Horsley, Medi 1803. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Wrecsam, Mawrth 1804, ac ym Mehefin yr un flwyddyn dyrchafwyd ef yn warden Rhuthyn a rheithor Llanfwrog. Daliodd y swyddi hyn am 47 mlynedd. Gwnaed ef hefyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Bangor (1821), yn archddiacon Meirionnydd (1834) (yr oedd deoniaeth Dyffryn Clwyd y pryd hwnnw yn esgobaeth Bangor), ac yn rheithor Clocaenog (1829-34). Yn 1851 ymddeolodd o Ruthyn a Llanfwrog a bu am chwe blynedd yn ficer Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Ysgrifennodd Memoirs of Dean and Bishop Goodman, 1825, a hanes cestyll a threfi Rhuthyn a Dinbych, 1829. Bu f. yn Llanrhaeadr, 7 Awst 1857, a'i gladdu yn Rhuthyn.
Llyfryddiaeth:
- Thomas, S. Asaph;
- A. Ivor Pryce, Dioc. Bangor During Three Cents.;
- cofrestri esgobaeth Llanelwy, N.L.W.;
- F. Boase, Modern English Biography, 1897, ii, 1118;
- A. O. Evans, A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer, iii, 312-4.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth