Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NEWELL, EBENEZER JOSIAH (1853-1916), clerigwr, ysgolfeistr, a hanesydd; g. yn Southwark yn 1853 yn ail fab i C. W. Newell. Aeth yn 1872 i Goleg Worcester, Rhydychen, a graddiodd yn 1876. Bu'n athro mewn ysgol yng Nghaerdydd. Urddwyd ef yn 1890, yn gurad yng Nghastell Nedd, a chadwai ysgol yno. Agorodd ysgol ym Mhorthcawl yn 1891, a chynhaliai ddosbarthiadau nos; trwyddedwyd ef hefyd yn gurad Trenewydd Notais. Yn llyfrgell Cwrt Notais (gw. yr ysgrif ar Knight o Landidwg) enynnwyd ynddo ddiddordeb yn hanes yr Eglwys yng Nghymru, a gwnaeth waith da ar y pwnc — yr oedd hefyd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru. Heblaw cyfrol o farddoniaeth (The Sorrow of Simona), 1882, cyhoeddodd A Popular History of the Ancient British Church, 1887; A History of the Welsh Church to the Dissolution of the Monasteries, 1895 (traethawd buddugol yn yr eisteddfod genedlaethol); The Diocese of Llandaff, 1902; a S. Patrick, his Life and Teaching, 1890. Ddiwedd 1900, cafodd ficeriaeth Neen Sollers, Cleobury Mortimer (yn sir Amwythig), a bu f. yno ddechrau Mehefin (claddwyd 6 Mehefin) 1916.

Llyfryddiaeth:

  • Foster, Alumni Oxon.;
  • Crockford;
  • Shropshire Par. Reg. Soc.;
  • gwybodaeth gan ei fab, y Parch. L. B. C. Newell.

Awdur:

Yr Archddiacon Lawrence Thomas, D.D., (1889-1960), Aberafan