Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NEWELL, RICHARD (1785-1852), amaethwr a phregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; g. yn Allt-y-ffynnon, Aberhafesp, sir Drefaldwyn, 23 Mawrth 1785, mab Richard Newell, amaethwr, a Bridget ei wraig. Yn 1786 symudodd y teulu i Gwernfyda, Llanllugan, lle y bu'r mab yn ysgol y Parch. John Davies a David Davies. Yn 1786 symudodd y teulu i'r Bryn, Llanwyddelan, lle y bu'r tad f. yn 1800. Ar ôl hyn aeth y mab i ysgol ei ewythr, y Parch. John Roberts [q.v.], yn Llanbrynmair. Yn 1803 symudodd ei fam ac yntau i'r Hen Neuadd, Manafon, lle y buont hyd 1831. Yn 1811 priododd Elizabeth Griffiths, Cefndu (chwaer y Parch. Evan Griffiths, Meifod [q.v.]), a bu iddynt naw o blant. Etholwyd ef yn flaenor yn y capel yn Llanwyddelan, ac yn sasiwn Llanfair, 1821, derbyniwyd ef fel pregethwr. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i lafurio ymhlith y Saeson ar y goror, lle yr oedd yn flaenllaw gyda threfniadau a symudiadau'r ysgol Sul ac hefyd gyda'r achos dirwestol. Tua 1819 penodwyd ef yn ‘high constable’ dros adran Aberriw, a bu yn ddylanwad mawr er daioni; fe lwyddwyd trwy gyfraith gwlad i gosbi rhai o'r prif droseddwyr, a bu gwelliant mawr yng nghyflwr moesol yr ardal. Yn 1831 symudodd i Blasbach, Meifod, ac yn 1846 i'r Cwm, lle y bu f. 22 Mehefin 1852. Cyhoeddodd gylchgrawn i blant gyda chymorth Morris Davies, Bangor [q.v.], o dan yr enw Pethau Newydd a Hen neu Drysorfa i'r Ysgol Sabbothol. Efallai mai hwn oedd y cyhoeddiad cyntaf erioed i blant Cymru; parhaodd am bedair blynedd (1826-9). Ymhlith llawysgrifau'r Methodistiaid Calfinaidd a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae nifer o ddyddiaduron (1813-50) yn cynnwys cofnodion sasiynau, cyfarfodydd misol, cymanfaoedd yr ysgol Sul, etc., yn llaw Richard Newell.

Llyfryddiaeth:

  • John Herbert, Cofiant … Richard Newell (Llanidloes, d.d.);
  • Edward Jones, ‘Richard Newell‘;
  • yr aflonyddwr,’ yn Drys., Ionawr a Chwefror 1937.

Awdur:

Miss Katharine Monica Davies, M.A. Aberystwyth