Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NICHOLLS, ERITH GWYN (1875-1939), chwaraewr pêl droed (Rygbi) — ar y cyfan, efallai'r enwocaf o chwaraewyr Rygbi Cymru, serch mai yng Nghaerloyw y g. ef, yn 1875. Yn llanc, chwaraeodd fel cefnwr a hanerwr dros glwb yr ‘Harlequins’ (a ddarfu ers llawer blwyddyn) yng Nghaerdydd; ar ddydd Calan 1894 yr ymddangosodd gyntaf yn nhîm Caerdydd (er ei fod cyn hynny wedi chwarae dros sir Gaerloyw), fel cefnwr; chwaraeodd deirgwaith dros Gaerdydd fel cefnwr cyn symud i'r canol — fel canolwr yr enillodd ei fri mawr. Rhwng 1896 a 1906, cynrychiolodd Gymru 24 o weithiau, a bu'n gapten Cymru sawl gwaith — y tro enwocaf oedd pan drechodd Cymru, yng Nghaerdydd yn 1905, dîm (anorchfygedig cyn hynny) New Zealand. Bu'n aelod am sawl tymor o'r pwyllgor a ddewisai'r chwaraewyr dros Gymru; a chyhoeddodd lyfr, The Modern Rugby Game and How to Play It. Yr oedd yn bartner gyda'i gyd-frawd-yng-nghyfraith H. B. Winfield [q.v.] yn ffyrm y ‘Victoria Laundries.’ Bu f. 24 Mawrth 1939. Y mae clwydydd coffa iddo yn y ‘Cardiff Arms Park.’

Llyfryddiaeth:

  • Rugby Football Annual, 1939-40, 11;
  • W. J. T. Collins, Rugby Recollections, 14;
  • The Times, 25 Mawrth a 18 Mai 1939;
  • West. Mail, 25 Mawrth 1939 a 28 Rhagfyr 1949.

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth