Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NICHOLLS, JOHN (1555-1584?), diwinydd dadleugar. Yr unig gysylltiad rhyngddo a Chymru oedd ei eni yn y Bont-faen, yn fab i un John Nicholls. Aeth i White Hall (Coleg Iesu wedi hynny), Rhydychen, symudodd oddi yno i Goleg Brasenose, a gadawodd heb raddio. Wedi gadael y brifysgol dychwelodd adref, a bu'n diwtor cyn iddo gael curadiaeth yn Withycombe, Gwlad yr Haf. Treuliodd weddill ei oes fer mewn rhan ar y Cyfandir ac mewn rhan yn Lloegr, gan fod ar brydiau yn Babydd ac ar brydiau yn Brotestant, a chyhoeddi gweithiau dadleugar — gw. y teitlau yn D.N.B. — yn ôl fel y credai fel crefyddwr ar y pryd. Diweddodd gan ddyfod yn Babydd, ond nid ymddengys fod iddo argyhoeddiadau cryfion o gwbl. Y mae'n debyg iddo f. yn 1583 neu 1584 — 'in great misery.'

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.

Awdur:

Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr