NICHOLL, Syr JOHN (1759-1838);
g. 16 Mawrth 1759, ail fab John Nicholl, Llanmaes, aelod o deulu a ymsefydlasai ers hir amser yn Llanmaes a Llanilltyd Fawr, sir Forgannwg. Cafodd ei addysg yn y Bontfaen a Bryste, ac ymaelododd yn Rhydychen (o Goleg S. Ioan) ar 27 Mehefin 1775. Llwyddodd, ar 6 Ebrill 1785, i ennill gradd D.C.L., y cymhwyster a oedd yn anhepgor er mwyn cael ei dderbyn i'r gorfforaeth gyfyngedig iawn a elwid yn ‘Doctor's Commons'; derbyniwyd ef yn ‘Advocate’ ynddi ar 3 Tachwedd 1785. Daeth cylch ei ymarfer â'r swydd honno yn eang; dilynodd Syr William Scott (arglwydd Stowell) fel ‘King's Advocate' ar 6 Tachwedd 1798 a chael ei wneuthur yn farchog, yn ôl yr arfer. Etholwyd ef i'r Senedd yn 1802 a pharhaodd i fod yn aelod, dros amrywiol etholaethau, hyd y diddymwyd y Senedd ym mis Rhagfyr 1832, adeg y ‘Reform Act’ (1832), pryd yr ymneilltuodd. Yn ystod ei yrfa yn y Senedd yr oedd yn Dori pybyr; gwrthwynebai'n wastad y mesurau i ganiatáu mwy o ryddid i'r Pabyddion ac i ddiwygio'r gyfundrefn etholaethol. Yr ‘Ecclesiastical Courts Act,’ 1829, oedd ei gyfraniad gweithredol ef i ddeddfwriaeth. Yn 1809 apwyntiwyd Syr John Nicholl yn ‘Dean of Arches’ ac yn farnwr llys yr ewyllysiau, Caergaint; derbyniwyd ef hefyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Dewiswyd ef yn farnwr Uchel Lys y Morlys yn 1833. Y flwyddyn ganlynol gwnaethpwyd ef yn ficer cyffredinol i archesgob Caergaint a rhoes i fyny swyddi'r ‘Dean of Arches’ a barnwr Llys yr Ewyllysiau. Fel barnwr enillodd enw da iawn iddo'i hun ‘for inflexible impartiality and great strength and soundness of judgement.’ Ceir ei ddyfarniadau yn y reports swyddogol; argraffwyd amryw ohonynt ar wahân hefyd. Tua'r flwyddyn 1803 prynodd stad Merthyr Mawr, gerllaw Penybont-ar-Ogwr, sir Forgannwg; adeiladodd yno blasty hardd a chynnull yno lyfrgell o tua 30,000 o gyfrolau. Cymerth ran bwysig ym mywyd gwleidyddol ei sir enedigol, a bu'n gefnogydd cyson i Syr Christopher Cole, yr aelod Torïaidd. Yr oedd yn aelod blaenllaw ym mudiad y gwirfoddolwyr yn ystod y rhyfel â Napoleon, a chyrhaeddodd radd lifftenantcyrnol. Bu'n helpu i sefydlu King's College, Llundain. Yr oedd yn F.R.S. (1806) a F.S.A. Priododd Judy, ferch ieuengaf Peter Birt, Wenvoe, ar 8 Medi 1787. Bu f. 26 Awst 1838 ym Merthyr Mawr, gan adael unig fab, John Nicholl [q.v.], a thair merch.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B. a'r cyfeiriadau a roddir yno.
Awdur:
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr