Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NICHOLL, JOHN (1797-1853); g. 21 Awst 1797, unig fab Syr John Nicholl [q.v.]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen lle y cafodd ysgoloriaeth yn 1816. Graddiodd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron ac, fel ei dad, llwyddodd i gael gradd D.C.L. yn 1825 a'i ethol yn ‘Advocate’ yn Doctors' Commons; galwesid yn fargyfreithiwr, o Lincoln's Inn, yn 1824. Etholwyd ef, Rhagfyr 1832, yn aelod dros Gaerdydd yn y Senedd ddiwygiedig gyntaf ar ôl pasio'r ‘Reform Act,’ a chadwodd y sedd hyd 1852. Daliodd amryw swyddi. Bu'n Arglwydd y Trysorlys am ychydig fisoedd yn 1835, yn ‘Master of the Faculties,’ ac yn farnwr llys ewyllysiau archesgobaeth Caergaint o 1838 hyd 1841; dewiswyd ef yn ‘Judge Advocate-General’ ym mis Medi 1841, pryd y daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor; yr oedd yn ‘Ecclesiastical Commissioner’ a daeth yn aelod o'r Bwrdd Masnach ym mis Ionawr 1846. Yn ei sir enedigol daeth yn ddirprwy-raglaw a chafodd ei ddewis yn gadeirydd sesiwn chwarter Morgannwg. Priododd, 14 Rhagfyr 1841, Jane Harriet, ail ferch Thomas Mansel Talbot, Margam. Bu iddo saith o blant, a dilynwyd ef yn y stad gan ei fab hynaf, John Cole Nicholl. Bu f. 27 Ionawr 1853, yn Rhufain. Y mae stad Merthyr Mawr yn parhau ym meddiant disgynnydd uniongyrchol ohono.

Llyfryddiaeth:

  • W. R. Williams, Parl. Hist.;
  • G. T. Clark, Limbus Patrum;
  • gwybodaeth gan Mr. R. I. Nicholl.

Awdur:

Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr