NICHOLAS, THOMAS (1816-1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr, athro coleg diwinyddol, ac awdur;
g. 17 Chwefror 1816 yn Nhroedyrhiw, Trefgarn, gerllaw Solfach, sir Benfro. Bu yn y Lancashire College, Manceinion, ac yn yr Almaen (M.A., Ph.D., Prifysgol Göttingen). Gwasanaethodd fel bugail eglwys yn Stroud, swydd Gloucester, a bu am gyfnod yn Eignbrook, swydd Henffordd. Fe'i dewiswyd yn athro llenyddiaeth y Beibl, gwyddor foesol, etc., yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1856 eithr ymddiswyddodd ac ymsefydlu yn Llundain yn 1863. Yno, gyda Syr Hugh Owen, yr arglwydd Aberdâr 1af, y Parch. David Thomas, Stockwell, ac eraill (gw. yr ysgrifau arnynt), bu'n ddiwyd yn tynnu allan gynllun addysg uwchraddol yng Nghymru ac yn gwasnaethu, am beth amser, fel ysgrifennydd y mudiad a arweiniodd i agor coleg prifathrofaol cyntaf Cymru — yn Aberystwyth yn 1872. Cyn hynny, fodd bynnag, yr oedd Nicholas wedi anghytuno â rhai o'r hyrwyddwyr ac wedi ymddiswyddo; gw. yr hanes gan Iwan Morgan yn The College by the Sea (Aberystwyth, 1928), 257-66 yn arbennig. Yr oedd Nicholas wedi cyhoeddi, yn 1863, lyfryn a dynnodd gryn sylw ar y pryd, sef Middle and High Class Schools, and University Education for Wales; yr oedd hefyd, sef yn 1860, wedi golygu argraffiad o Mathias Maurice [q.v.], Social Religion Exemplify'd. Heblaw y rhai hyn cyhoeddodd (a) Pedigree of the English People, 1868 (am hanes y cyngaws cyfreithiol ynglŷn âr llyfr hwn gw. Iwan Morgan, op. cit., a N.L.W. MS. 3097); (b) Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales — y mae dwy gyfrol arg. 1872 yn parhau yn llyfrau cyfeirio defnyddiol; (c) History and Antiquities of the County of Glamorgan and its Families, sef printiad ar wahân o ran o (b). Ychydig cyn ei farw yr oedd yn cywiro proflenni argraffiad Saesneg Baedeker's London. Ceir manylion ychwanegol am yrfa Nicholas yn y Nicholas MSS (NLW MS. 3091-3106 yn awr); noder e.e. N.L.W. MS. 3091 sydd yn cynnwys hanes taith bregethu o Drefgarn i Lerpwl ac yn ôl yn 1838 yng nghwmni James Evan(s) (‘Carneinion’; 1814-1842 [q.v.]), a llythyrau a phapurau cyfreithiol (yn N.L.W. MS. 3106) yn ymwneud â Lonsdale House School, Bridgwater, ysgol yr oedd Nicholas yn gyd-bartner ynddi. Bu f. 14 Mai 1879 yn 156 Cromwell Road, Llundain, a chladdwyd yng nghladdfa Hammersmith (gw. E. Poole, Hist. of Brecknockshire, 308).
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- Asaph (Em. W.);
- Gen., 1901, 129;
- N.L.W. Handlist of MSS.. i, 266-7;
- Congl. Year Book, 1881;
- The Homilist, 1877, 456 ff.;
- a'r ffynonellau a enwyd yn yr ysgrif.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth